Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cefnogaeth fusnes ychwanegol o £100M wrth i’r Gronfa Cadernid Economaidd dderbyn nifer digynsail o geisiadau
Mae cam diweddaraf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi elwa o ryddhau £100 miliwn yn rhagor gan weinidogion o fewn 72 awr i lansio, oherwydd galw aruthrol.
Derbyniwyd mwy na 6,000 o geisiadau grant gan fusnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol o fewn 24 awr i’r lansiad ddydd Gwener – ymateb digynsail gan ddatgelu graddfa’r heriau mae busnesau Cymru’n eu hwynebu.
Nod y Gronfa yw ategu a llenwi’r bylchau sydd wedi’u gadael gan gynlluniau Llywodraeth y DU, fel y Cynllun Cadw Swyddi, gyda grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer micro-fentrau a hyd at £100,000 ar gyfer BBaCh a system arfarnu cyffyrddiad ysgafn wedi’i chynllunio i gael arian i fusnesau heb fawr ddim oedi – yn ogystal â chronfa benthyciadau newydd sy’n cael ei gweinyddu gan Fanc Datblygu Cymru.
Lai na thair wythnos ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r bwriad i greu’r Gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau £100 miliwn pellach, gan fynd â’r gronfa grantiau i £300 miliwn. Bydd hyn yn ategu’r cam diweddaraf hwn o gefnogaeth, gan ddarparu grantiau heb fod yn ad-daladwy i ficrofusnesau, BBaCh a busnesau mawr sydd o bwysigrwydd hanfodol, cymdeithasol neu economaidd i Gymru.
Mae’r Gronfa wedi cael croeso cynnes gan undebau llafur a sefydliadau busnes, gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn ei alw’n ‘newyddion i’w groesawu’n fawr i berchnogion a rheolwyr busnes sydd wir angen yr holl help y gallant ei gael yn ystod y cyfnod anodd yma’. Mae Siambr Fasnach De a Chanolbarth Cymru wedi galw’r ‘ymateb cyflym hyd yma’ gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru fel ymateb ‘nodedig’. Croesawodd TUC Cymru ‘y cyllid ychwanegol i roi sylw i’r bylchau’.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Roedden ni’n gwybod hyd yn oed gyda’r help sy’n cael ei gynnig gan fenter fel y Cynllun Cadw Swyddi bod angen aruthrol am fynediad cyflym at arian grant os yw busnesau Cymru am oroesi’r sioc economaidd ddigynsail yma.
“Er ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd am gymhwysedd er mwyn gwneud y cynllun yn gyflym a syml – fel gofyn i fusnesau fod wedi cofrestru ar gyfer TAW fel ffordd o orfod gwirio eu hanes masnachu – mae’n glir oddi wrth lefel yr ymateb a dderbyniwyd bod y Gronfa Cadernid Economaidd yn cau bwlch yng nghefnogaeth Llywodraeth y DU ac yn darparu sicrwydd ariannol y mae ei wir angen i lawer o fusnesau yn ystod y cyfnod heriol yma.
“Byddwn yn parhau i adolygu’r gefnogaeth ac yn ystyried sut gallwn ei datblygu yn ystod y dyddiau sydd i ddod.
“Mae cyfradd y ceisiadau wedi bod yn enfawr a digynsail. Dyma’r ail waith mewn ychydig wythnosau i fynediad at arian Llywodraeth Cymru i leddfu’r pwysau ar lif arian i fusnesau Cymru gyrraedd capasiti yn gyflym iawn, ac rydym wedi ymateb yn gyflym i ryddhau £100m pellach ar gyfer y cam hwn yn y gronfa.
“Yn y cyfnod economaidd anodd a heriol yma rydym wedi gweithio’n galed i ryddhau adnoddau i greu Cronfa mor fawr er gwaetha’r galw enfawr ar ein cyllideb, a cheisio cydbwysedd rhwng cefnogi cymaint o fentrau â phosib a gwneud cyfraniad ystyrlon at oroesiad pob un, yn ogystal â gofyn i bob derbynnydd ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd.
“Er ein bod yn cymeradwyo llawer ar beth mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud, mae angen brys am weld mwy o’r benthyciadau a addawyd sydd wedi’u gwarantu gan Lywodraeth y DU yn cyrraedd y rheng flaen. Rhaid i Lywodraeth y DU barhau i gefnogi a phwyso ar fanciau’r stryd fawr i fod yn fwy ymatebol i anghenion ein busnesau yn ystod y cyfnod anodd yma.”
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o fwy na £2 biliwn o gefnogaeth sydd ar gael gennym ni i helpu busnesau ac elusennau yn ystod y cyfnod eithriadol anodd yma.
“Rydyn ni’n gwybod bod cefnogaeth i fusnesau’n allweddol bwysig ond er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i gau unrhyw fylchau a darparu’r gefnogaeth ariannol orau bosib i fusnesau, mae’n glir bod camau pellach y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU eu rhoi ar waith ar frys.”
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn cynnig cefnogaeth ariannol i helpu busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol i ddelio ag argyfwng y coronafeirws a bydd yn hanfodol mewn helpu sefydliadau i reoli’r pwysau ar lif arian. Mae’n ffrwd ychwanegol unigryw o gyllid i Gymru a’i nod oedd rhoi sylw i’r bylchau sydd ddim yn cael eu cau ar hyn o bryd gan gynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Yng ngham cyntaf y Gronfa, defnyddiwyd cynllun benthyciadau gwerth £100 miliwn Banc Datblygu Cymru i gyd mewn ychydig dros wythnos. Mae ceisiadau’n cael eu prosesu ar hyn o bryd ac mae rhai busnesau wedi derbyn cyllid eisoes. Mae disgwyl y bydd y Banc Datblygu wedi prosesu pob cais sydd wedi’i dderbyn o fewn y mis.
I sicrhau bod yr arian yn cyrraedd busnesau cyn gynted â phosib, mae mwy na 120 o staff ychwanegol Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru wedi cael eu symud i brosesu ceisiadau a chefnogi busnesau a sefydliadau yn y cam diweddaraf hwn fel rhan o’r Gronfa.