Llywodraeth Cymru yn saliwtio ein Lluoedd Arfog
Welsh Government salutes our Armed Forces
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o ddathlu Wythnos y Lluoedd Arfog, gan anrhydeddu cyfraniad cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a'u teuluoedd wrth i gymunedau ledled Cymru baratoi ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau arbennig.
Penllanw'r dathliad fydd digwyddiad cenedlaethol yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Sadwrn 28 Mehefin, sy'n cael £20,000 gan Lywodraeth Cymru. Bydd y digwyddiad yn dod â phobl at ei gilydd i ddangos eu gwerthfawrogiad i gymuned y lluoedd arfog, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae ym mywyd Cymru.
Mae gan Gymru draddodiad cyfoethog iawn o wasanaeth milwrol. Er mai dim ond 5% o boblogaeth y Deyrnas Unedig sy'n byw yng Nghymru, mae personél y fyddin sy'n dod o Gymru yn ffurfio tua 6 i 7% o luoedd arfog y Deyrnas Unedig. Mae'r ysbryd hwnnw o wasanaeth yn parhau heddiw, gyda milwyr o Gymru yn mynd i wasanaethu ledled y byd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned ehangach y lluoedd arfog, gan gynnwys y teuluoedd. Mae'r gefnogaeth honno'n parhau ar ôl i'r gyrfaoedd milwrol ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu digwyddiadau gyrfa wedi'u teilwra, cymorth gydag addysg i blant o deuluoedd sy'n gwasanaethu, a gwasanaeth iechyd meddwl o ansawdd uchel, GIG Cyn-filwyr Cymru, sy'n nodi ei ben-blwydd yn 15 oed eleni.
Mae canllawiau ar-lein hefyd yn helpu unigolion a theuluoedd i gael mynediad at gymorth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ledled Cymru, sydd wedi'u lleoli mewn awdurdodau lleol, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y lluoedd arfog: "Mae cymuned y lluoedd arfog yn cyfoethogi pob rhan o fywyd Cymru. Mae'r wythnos hon o ddathlu yn rhoi cyfle i ni ddangos ein diolch diffuant i'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu, ac ailddatgan ein hymrwymiad i'w cefnogi, beth bynnag fo'u hamgylchiadau."
Mae gofal iechyd yn rhan allweddol o'r gefnogaeth honno. Mae cynllun achredu meddygon teulu Llywodraeth Cymru yn helpu cyn-filwyr ledled y wlad i gael mynediad at ofal sy'n cydnabod eu profiadau unigryw. Mae mwy na 50 o feddygfeydd bellach yn cael eu cyfrif fel rhai 'Cyfeillgar i Gyn-filwyr', gyda thimau wedi'u hyfforddi'n arbennig ar waith.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb sydd wedi gwasanaethu yn cael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae ein cynllun achredu meddygon teulu yn golygu bod cyn-filwyr yn fwy tebygol o dderbyn gofal sy'n adlewyrchu eu profiadau a'u hanghenion. Rwy'n annog mwy o bractisau meddygon teulu ledled Cymru i ymuno â'r fenter bwysig hon fel y gallwn sicrhau bod pob cyn-filwr yn cael y gefnogaeth arbenigol maen nhw'n ei haeddu."