English icon English

Llywodraeth Cymru yn ymateb i Adolygiad Gwariant y DU

Welsh Government responds to UK Spending Review

Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa ar gynnydd sylweddol mewn cyllid ar ôl Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU heddiw.

Mae buddsoddiad ychwanegol mewn diogelwch tomenni glo ac yn seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi cael ei gyhoeddi, ochr yn ochr â rhagor o gyllid i Lywodraeth Cymru.

Bydd Cymru yn elwa ar gyfanswm o £5 biliwn o gyllid refeniw a chyfalaf ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Mae'r Adolygiad Gwariant hwn yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd.

"Bydd Cymru yn gweld buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn ei seilwaith rheilffyrdd ac yn niogelwch tomenni glo. Bydd cymunedau ledled y wlad hefyd yn gweld manteision gwirioneddol sy'n gwella bywydau ac yn creu cyfleoedd.

"Mae'r £5 biliwn o gyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf yn golygu y gallwn ni ymateb yn well i'n blaenoriaethau. Bydd rhagor o gyllid cyfalaf yn cefnogi ein buddsoddiadau mewn seilwaith, gan gynnwys mewn ysgolion, ysbytai a chysylltiadau trafnidiaeth.

"Mae'r rhain i gyd yn gamau pwysig ymlaen y gallwn ni adeiladu arnyn nhw. Byddwn ni nawr yn defnyddio'r adnoddau hyn i lunio ein cynlluniau ar gyfer y gyllideb, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysicaf i bobl ledled Cymru."

Mae'r Adolygiad Gwariant yn rhoi cyllid pellach o £118 miliwn ar gyfer diogelwch tomenni glo, ochr yn ochr â'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i roi.

Bydd yr Adolygiad Gwariant yn arwain at welliannau rheilffyrdd gwerth £445 miliwn i Gymru. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £350 miliwn ar gyfer cyfnod yr Adolygiad Gwariant hwn a £95 miliwn ar gyfer y Strategaeth Seilwaith 10 mlynedd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

"Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo yn dangos sut mae ein llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn cymunedau sy'n byw yn yr hen ardaloedd mwyngloddio, gan fuddsoddi yn eu dyfodol. Rydym bellach yn buddsoddi mwy na £220 miliwn i fynd i'r afael â gwaddol tomenni glo.

"Ar ôl blynyddoedd o alw am gyllid teg ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru, rydym yn croesawu'r cam yma ymlaen. Gan adeiladu ar ein llwyddiant ein hunain wrth ddarparu trenau newydd, sydd wedi'u hadeiladu yng Nghymru, mae hyn yn dechrau mynd i'r afael â'r diffyg buddsoddi hanesyddol yn ein seilwaith rheilffyrdd. Bydd hyn hefyd yn helpu i wireddu ein huchelgais i gysylltu cymunedau'n well."