English icon English
8-54

Llywodraeth Cymru yn ymestyn y profi i bob cartref gofal

Welsh Government extends testing to all care homes

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn 16eg  Mai) y bydd profi am y Coronafeirws yn cael ei ymestyn i gynnwys preswylwyr a staff cartrefi gofal os oes amheuaeth o achos o’r Coronafeirws yno – daw’r cam hwn yn dilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Yn flaenorol roedd preswylwyr a staff cartrefi gofal gydag achosion wedi’u cadarnhau o’r Coronafeirws yn cael eu profi.

O wythnos yma ymlaen bydd pob cartref gofal yng Nghymru’n cael mynediad i borthol ar-lein i wneud cais am brofion ar gyfer y preswylwyr neu’r staff sy’n cael eu hamau o fod â’r Coronafeirws neu’n dangos symptomau. Byddai citiau profi’n cael eu darparu ar gyfer y cartref gofal cyfan, ac mae hyn yn cynnwys yr holl breswylwyr a’r staff.

Byddai Cymru’n cael dyraniad dyddiol o brofion a fyddai’n cael eu cyflenwi ledled y wlad, gyda’r system yn cael ei hehangu’n fuan.                     

Bydd y polisi newydd yn ychwanegol at y system bresennol o -

  • darparu profion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal sydd ag achosion parhaus cyn mis Mai
  • cynnig profion i’r holl breswylwyr a’r aelodau o staff mewn cartrefi gofal sy’n cofnodi’r achos posib cyntaf erioed
  • brofion i’r holl breswylwyr a’r aelodau o staff yn y cartrefi gofal mwyaf, gyda mwy na 50 gwely
  • brofi’r holl unigolion sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty i fyw mewn cartrefi gofal, hyd yn oed os na gawsant eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19
  • brofi’r holl bobl sy'n cael eu trosglwyddo rhwng cartrefi gofal ac ar gyfer derbyniadau newydd o'r gymuned.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae sut rydyn ni’n delio gyda’r Coronafeirws yn newid yn gyson wrth i ni dderbyn mwy o dystiolaeth a chyngor gwyddonol.     

“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn yn ein dull o weithredu a’n strategaeth ni yw lleihau niwed i ddechrau a byddwn yn addasu ein polisïau er mwyn gwneud hyn. Mae heddiw’n newid mawr yn y ffordd y byddwn ni’n profi mewn cartrefi gofal, gan addasu ein polisi fel bod pob preswylydd ac aelod o staff yn gallu cael eu profi os oes amheuaeth bod gan un person y Coronafeirws.

Gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd pellach i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd.”