Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi blaenoriaethau ar gyfer y negodiadau â’r Undeb Ewropeaidd
Welsh Government publishes priorities for forthcoming EU negotiations
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hasesiad o Ddatganiad Gwleidyddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n cyd-fynd â Bil y Cytundeb Ymadael. Mae wedi nodi hefyd beth yw ei blaenoriaethau ar gyfer ein perthynas fasnach a’n perthynas ehangach â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Gwrthod derbyn dyfodol economaidd a fyddai’n golygu cyflogau isel, llai o sicrwydd swyddi a llai o reoleiddio, gan arwain at fwy o anghydraddoldeb
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hasesiad o Ddatganiad Gwleidyddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n cyd-fynd â Bil y Cytundeb Ymadael. Mae wedi nodi hefyd beth yw ei blaenoriaethau ar gyfer ein perthynas fasnach a’n perthynas ehangach â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Er bod Llywodraeth Cymru’n derbyn y byddwn ni bellach yn ymadael â’r UE, mae’n dadlau yn yr asesiad bod angen gwneud newidiadau i’r trywydd sydd wedi’i amlinellu yn y Datganiad Gwleidyddol, a hynny er mwyn diogelu buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a’r DU gyfan yn well.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:
“Cyn hir, bydd Llywodraeth y DU yn dechrau negodi â’r UE ynghylch cytundeb hirdymor parhaol. Mae’r cytundeb hwn yn hanfodol bwysig i Gymru. Bydd yn pennu sail ein masnach yn y dyfodol, a’n perthynas ehangach â’r UE, am ddegawdau i ddod. Ni allai mwy fod yn y fantol.
“Mae’r dystiolaeth yn glir mai’r pellaf y bydd y DU yn symud oddi wrth yr integreiddio economaidd y mae’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn ei ddarparu, y mwyaf fydd y niwed economaidd. Yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf, a bydd yn parhau i fod felly. Mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi integredig ar draws yr UE, felly mae gofyn i’r fasnach fod yn esmwyth.
“O ystyried pwysigrwydd aruthrol yr UE i’n heconomi, rhaid i’r DU roi blaenoriaeth i sicrhau bod y mynediad dirwystr i’r marchnadoedd hyn yn parhau, cyn mynd ati i greu cytundebau masnach gyda gwledydd eraill.
“Byddwn yn parhau i herio agwedd negodi sy’n rhoi ‘rhyddid’ y DU i wyro oddi wrth safonau rheoleiddiol yr UE o flaen lles pobl Cymru. Byddai agwedd o’r fath yn ddiffygiol iawn a gallai arwain at golli swyddi a cholli buddsoddiadau yng Nghymru. Mae angen cytundeb â’r UE sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
“Mae Llywodraeth y DU yn honni ein bod yn awyddus i gynnal safonau uchel, a byddwn ni’n mynnu ei bod yn cadw at ei gair. Byddwn felly yn gwrthwynebu unrhyw agenda ddadreoleiddio a fydd yn peri niwed i fuddiannau defnyddwyr yn y tymor hir.
“Rydym yn gwrthod gweledigaeth o Brydain lle mae’r economi’n seiliedig ar gyflogau isel, sicrwydd isel o ran swyddi a llai o reoleiddio, a fyddai’n arwain at anghydraddoldeb cynyddol. Mae angen economi cryf, arloesol ac agored yn y DU, gyda pharch o bob ochr tuag at gyfrifoldebau pob un o lywodraethau’r Undeb."
Pwysleisiodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru, fel sawl sylwedydd arall – a negodwyr yr UE eu hunain – yn credu ei bod yn bosibl sicrhau’r cytundeb cywir mewn ychydig fisoedd o negodi’n unig. Dywedodd: “Byddwn yn parhau i ddadlau na ddylai Llywodraeth y DU ddiystyru estyniad y tu hwnt i fis Rhagfyr 2020, sy’n ddyddiad mympwyol. Yr hyn sy’n bwysig yw sicrhau’r cytundeb gorau, nid yr un cyflymaf.