Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo trwydded brechlynnau y Tafod Glas at ddefnydd gwirfoddol
Welsh Government approves Bluetongue vaccines licence for voluntary use
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i drwyddedu tri brechlyn y Tafod Glas (BTV-3) i'w defnyddio mewn argyfyngau ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr y diwydiant ffermio sydd wedi gofyn i bob un o'r tri brechlyn BTV-3 gael eu trwyddedu i'w defnyddio yng Nghymru. Bydd trwydded gyffredinol ar-lein ar gael ar gyfer defnyddio y brechlyn yng Nghymru o 1 Mawrth ymlaen.
Bydd y brechlynnau ar gael ar bresgripsiwn a'u gwerthu o filfeddygfeydd a gallant gael eu rhoi gan geidwaid da byw eu hunain, gan ddilyn canllawiau priodol.
Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn lledaeniad parhaus achosion firws y Tafod Glas (BTV-3) yn Lloegr ers mis Awst 2024. Ar 4 Medi 2024, cafodd tri brechlyn BTV-3 heb awdurdod ganiatâd Ysgrifennydd Gwladol Defra i'w ddefnyddio mewn argyfwng yn y DU. Cafodd y brechlynnau eu trwyddedu i'w defnyddio yn Lloegr y llynedd ac mae penderfyniad Gweinidogion Cymru i roi trwydded yn golygu bod modd eu defnyddio yng Nghymru bellach.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:
"Cafodd y penderfyniad hwn i drwyddedu'r brechlynnau hyn ei lywio gan ein hasesiad risg diweddar sy'n nodi bod Cymru bellach mewn perygl uchel o brofi achosion y Tafod Glas eleni. Ein prif nod yw cadw'r Tafod Glas allan o Gymru drwy fioddiogelwch, gwyliadwriaeth a chyrchu da byw yn ddiogel.
"Mae Cymru'n parhau i fod yn rhydd o BTV-3, ond mae'n bwysig bod yn barod. Mae brechlynnau'n ddull pwysig i ffermwyr Cymru leihau effaith y clefyd hwn yn eu buchesi a'u diadelloedd.
"Byddwn yn annog ffermwyr sy'n ystyried brechu i ymgynghori â'u milfeddyg i drafod a yw brechu yn briodol i'w da byw."
Gwybodaeth allweddol i ffermwyr:
- Rhaid i frechlynnau gael eu rhoi ar bresgripsiwn gan filfeddyg.
- Rhaid i berchnogion da byw dalu’r costau.
- Argymhellir brechiad yn y gwanwyn ar gyfer yr amddiffyniad gorau posibl, gan sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn cyn gweithgaredd brig gwybed yn yr haf a'r hydref.
- Rhaid cadw cofnodion brechu manwl am 5 mlynedd.
- Rhaid rhoi gwybod am fanylion brechu anifeiliaid unigol o fewn 48 awr – Adroddiadau ceidwaid anifeiliaid am weithgaredd brechu BTV-3