English icon English

Llywodraeth y DU yn dewis mynd ar ei liwt ei hun Prif Weinidog Cymru: mae Llywodraeth y DU yn rhoi ideoleg o flaen bywoliaeth pobl

UK Government chooses to go it alone First Minister: UK Govt putting ideology above people’s livelihoods

Heddiw, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer masnach â’r UE yn y dyfodol yn niweidio economi Cymru mewn ymgais frysiog i sicrhau cytundeb.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei mandad negodi ar gyfer y trafodaethau ar ein perthynas yn y dyfodol â’r UE – trafodaethau a fydd â goblygiadau difrifol, gwirioneddol i economi Cymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru:

“Bydd cynigion Llywodraeth y DU yn niweidio economi a swyddi Cymru. Maen nhw’n cynnig perthynas elfennol a llwm sydd heb uchelgais ac sy’n gwneud cam â Chymru.

“Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyflwyno unrhyw ddadansoddiad o effaith y berthynas y mae arnyn nhw ei heisiau. Mae’r ffaith nad ydyn nhw’n bod yn agored â’r cyhoedd ynglŷn â beth fydd y cynlluniau hyn yn ei olygu i’n heconomi yn annerbyniol.

“Maen nhw’n brysio i sicrhau cytundeb – unrhyw gytundeb – erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r uchelgais gwleidyddol hwnnw’n amlwg yn bwysicach iddyn nhw na sicrhau cytundeb sydd er budd holl genhedloedd y DU.

“Mae’r cynigion yn rhoi ideoleg o flaen bywoliaeth pobl. Nid yw Llywodraeth y DU hyd yn oed yn honni mwyach na fydd yna rwystrau newydd i fasnachu. Bydd eu cynigion yn golygu mwy o waith papur, mwy o oedi, mwy o archwiliadau ar nwyddau a gwasanaethau a allforiwn i’r UE. Ac os yw’r negodiadau’n methu, mae perygl y byddwn ni hefyd yn wynebu tariffau a fyddai’n andwyol i’n ffermwyr a’n sector bwyd.

“Mae angen i Brif Weinidog y DU fod yn agored â’r cyhoedd ynglŷn â’r penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud a’u heffaith ar swyddi, busnesau, buddsoddiadau a chymunedau. Mae cuddio’r gwir yn annerbyniol. Nid yw’n bosibl i’r DU gerdded i ffwrdd o’r economi agos, integredig sydd gennym ag Ewrop a gobeithio na fydd y cyhoedd yn sylwi.”

Hefyd, tynnodd Prif Weinidog Cymru sylw at y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi gweithio gyda’r llywodraethau datganoledig:

“Dros y tair blynedd a hanner diwethaf, rydym ni wedi manteisio ar bob cyfle i siarad â Gweinidogion y DU ynglŷn â’r pryderon penodol sydd gennym ynghylch diogelu a hyrwyddo economi Cymru, gan gynnig tystiolaeth a chynigion. Mae Llywodraeth y DU wedi dewis dilyn llwybr gwahanol iawn.

“Mae’r mandad y maen nhw wedi’i gyhoeddi yn golygu nad yw buddiannau hanfodol Cymru yn cael eu cynrychioli yn y negodiadau hyn. Pan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau’r negodiadau hyn wythnos nesaf – y rhai pwysicaf mewn 50 mlynedd – fe fydd yn gwneud hynny ar ei phen ei hun. Rydym ni’n gresynu’n fawr eu bod wedi dewis peidio â siarad dros holl lywodraethau’r DU.”