Llywodraeth y DU yn penderfynu peidio â buddsoddi yng ngorsafoedd Cymru
Welsh stations miss out on UK Government investment
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei siom ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â rhoi arian i orsafoedd ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, gan ei ddisgrifio fel “methiant Llywodraeth y DU i ddarparu'r buddsoddiad y maent yn gyfrifol amdano.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei siom ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â rhoi arian i orsafoedd ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, gan ei ddisgrifio fel “methiant Llywodraeth y DU i ddarparu'r buddsoddiad y maent yn gyfrifol amdano.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud ei bod yn y camau cynnar o ystyried trefniadau ariannu gwahanol ar gyfer gorsafoedd nad ydynt wedi'u dewis.
Ar 26 Chwefror, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai’n buddsoddi mewn gwelliannau hygyrchedd mewn gorsafoedd rheilffordd ym Mhrydain Fawr. Cafodd Rhiwabon, Hwlffordd a’r Eglwys Wen (Swydd Amwythig) eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi'u dewis yn y dyraniadau cyllid terfynol.
Cafodd gwelliannau rhanbarthol ychwanegol o ran hygyrchedd mewn 30 o orsafoedd eraill eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ond fe'u gwrthodwyd gan Lywodraeth y DU.
Ymysg y cynlluniau a ddewiswyd oedd ychwanegu lifft yn Grangetown, Llanilltud Fawr (2), Pont-y-pŵl a Chastell-nedd, y cyfan drwy gyllid ar y cyd gan yr Adran Drafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru a chyllid trydydd parti (er enghraifft, awdurdodau lleol).
Gellid defnyddio rhan o gynnig cyllid Trafnidiaeth Cymru i helpu cynlluniau nad ydynt wedi’u dewis, er efallai y bydd yn rhaid cwrdd â chostau ychwanegol drwy’r cynlluniau a gymeradwywyd. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn trafod y mater hwn.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae'n siomedig mai dim ond 4 o'r 7 prosiect y gwnaethom eu hyrwyddo a chynnig darparu arian cyfatebol ar eu cyfer y mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu buddsoddi ynddynt.
"Felly, rwyf wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd ystyried ar frys y posibilrwydd o ddefnyddio'r ymrwymiad arian cyfatebol rydym wedi'i gynnig i symud ymlaen i gynnig mynediad heb risiau yn y gorsafoedd nad ydynt wedi’u cynnwys, yn unol â'n buddsoddiad uniongyrchol ein hunain. Mae hyn oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddarparu'r buddsoddiad y maent yn gyfrifol amdano.
"Mae gorsafoedd sydd â chefnogaeth gref yn y gymuned ar gyfer gwaith uwchraddio heb risiau wedi'u heithrio o'r cyllid. Yn anffodus, mae hon yn enghraifft arall lle mae teithwyr yn teimlo effaith diffyg buddsoddiad parhaus Llywodraeth y DU yn rheilffyrdd Cymru.”
“Yn y cyfamser, rwy'n falch y bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen yn y pedair gorsaf lwyddiannus."
Nodiadau i olygyddion
Mae manylion y buddsoddiad ar gael yma - https://www.gov.uk/government/news/rail-stations-across-great-britain-receive-20-million-funding-boost-for-accessibility-improvements
Dyma'r cynlluniau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru:
- Rhiwabon – ychwanegu lifft at y strwythur presennol
- Castell-nedd – ychwanegu lifft at y strwythur presennol
- Ychwanegu lifftiau at y strwythurau presennol – Grangetown (1), Llanilltud Fawr (2), Pont-y-pŵl (1)
- Yr Eglwys Wen (Swydd Amwythig)
- Cyngor Sir Penfro - gwelliannau i orsaf Hwlffordd
- Gwelliannau rhanbarthol o ran hygyrchedd, o bosibl mewn 30 o orsafoedd
O'r rhain, yr unig rai a ddewiswyd gan Lywodraeth y DU oedd:
- Castell-nedd
- Grangetown, Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd, Llanilltud Fawr