Mae 94% o ffermwyr Cymru wedi cael eu talu erbyn heddiw.
94% of farmers in Wales receive payments today.
Hyd at heddiw, mae 94% o ffermwyr wedi cael taliad llawn neu ail daliad Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2024.
Mae dros 15,300 o fusnesau fferm yng Nghymru wedi cael taliadau gwerth £66.88m ac yn ogystal, mae gwerth £160.52m o ragdaliadau'r BPS wedi'u talu ers 14 Hydref sy'n golygu bod taliadau gwerth £227.40m wedi'u talu.
Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies ym mis Mai y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn parhau ar gyfer 2025 fel rhan o'r Paratoi ar gyfer yr SFS.
Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 – 2026 yr wythnos hon, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cadarnhau heddiw hefyd gyllideb o £238 miliwn ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2025, yr un faint ag yn 2024.
Y disgwyl yw felly mai 2025 fydd blwyddyn olaf taliadau BPS llawn, a bydd y ffermwyr hynny fydd wedi dewis cadw'r BPS yn derbyn llai o daliad y flwyddyn yn ystod y cyfnod pontio i'r SFS fydd yn dechrau yn 2026.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Rydym wedi ymrwymo i barhau i roi cymorth ariannol i ffermwyr gan eu bod wrth galon cymunedau ledled Cymru, ac yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi a'r diwydiant cynhyrchu bwyd. Nhw yw stiwardiaid ein tir, ac mae ganddyn nhw hefyd rôl allweddol wrth warchod ac adfer natur a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
"Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr ac anodd; ond gallwch fod yn sicr bod ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd yn gynaliadwy yn ddiwyro. A dangosir hynny heddiw yn y gyllideb sydd wedi'i chadw ar gyfer y BPS, er gwaethaf pwysau ariannol sylweddol ar feysydd eraill.
"Cyhoeddais Amlinelliad o'r SFS diweddaraf yn ddiweddar, i ddangos y newidiadau arwyddocaol yr ydym wedi'u gwneud i'r Cynllun arfaethedig yn sgil ymgynghori â'r diwydiant ac ar ôl gweithio'n galed â'r Ford Gron Gweinidogol a rhanddeiliaid eraill. Mae'r newidiadau'n ymateb i anghenion ffermwyr Cymru a'r un pryd, yn eu helpu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i gadw at yr ymrwymiadau i newid hinsawdd a natur. Byddwn yn dal i wrando a gweithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni weithio ar y manylion ychwanegol sydd eu hangen cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar y SFS flwyddyn nesaf.
"Byddwn yn parhau i helpu'r sector i symud yn ofalus o'r BPS dros yr ychydig flynyddoedd nesaf."
Rwyf wedi cyhoeddi nifer o gynlluniau i baratoi ar gyfer yr SFS, gan gynnwys Cynllun Cynefin Cymru, Cynllun Cynefin Tir Comin, Taliad Cymorth Organig, Cyswllt Ffermio, a Chynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd. Mae ffenestri ymgeisio newydd wedi agor ac ar fin agor ar gyfer ein cynlluniau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, Grantiau Bach yr Amgylchedd, Grantiau Bach Effeithlonrwydd, Grantiau Bach Cychwyn Garddwriaeth a'r Cynllun Arallgyfeirio a Garddwriaeth sydd newydd ei gyfuno. Daw mwy yn y Flwyddyn Newydd.
Yn ogystal, cyhoeddwyd y Cynllun Cymorth Aml-Flynyddol ("MASP") cyntaf erioed heddiw yn unol â'r gofyn yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Dyma'r cyntaf o lawer o adroddiadau y byddwn yn eu cyhoeddi o dan y Ddeddf.
Mae'r MASP yn nodi plan Llywodraeth Cymru a chyfres o weithgareddau cymorth yn y dyfodol fydd yn rhoi sicrwydd a thryloywder i'r sector amaethyddol er mwyn i'r sector a'i fusnesau allu cynllunio mewn cylchoedd o bum mlynedd.
Y mae hefyd yn disgrifio pob cynllun y bwriedir neu y disgwylir ei roi ar waith yn ystod y cyfnod gan roi disgrifiad o'r cymorth y bydd pob cynllun yn ei roi.