"Mae Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn fusnes i bawb", meddai cynghorwyr cenedlaethol VAWDASV Llywodraeth Cymru
“Domestic Abuse and Sexual Violence is everybody’s business”, say Welsh Government VAWDASV national advisers
Heddiw, cyhoeddodd Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – y cyfeirir atynt fel VAWDASV – eu hadroddiad blynyddol, gan roi sylwadau ar yr amcanion a osodwyd y llynedd ac a gyflawnwyd yn ystod 2019-20, a nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae'r cynnydd allweddol a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:
o Rhoi arfer gorau o ran dioddefwyr a goroeswyr ar waith mewn strategaethau lleol - mae dysgu ar y cyd gan arbenigwyr a rhanddeiliaid ar draws Cymru gyfan a ledled y DU wedi bod yn amhrisiadwy
o Rhoi blaenoriaeth i leisiau plant fel dioddefwyr a thystion camdriniaeth, a gwneud eu hanghenion yn rhan annatod o bolisïau VAWDASV
o Dysgu gwersi o adolygiadau o ddigwyddiadau angheuol drwy bartneriaeth â swyddogion VAWDASV traws-Lywodraethol
o Gweithio gyda phartneriaid academaidd a gwasanaethau arbenigol i gynyddu'r ddealltwriaeth gyffredin o 'beth sy'n gweithio' wrth fynd i'r afael ag ymddygiad niweidiol y rhai sy'n cyflawni VAWDASV
o Dod o hyd i ffyrdd newydd o greu cysylltiadau â goroeswyr VAWDASV na chyrhaeddwyd hyd yma
o Mireinio’r dangosyddion cenedlaethol
o Sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl i ddarparwyr gwasanaethau'r trydydd sector gael cyllid, drwy weithio gyda'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy
o Darparwyd tystiolaeth lafar ddwywaith i'r pwyllgor craffu ar gyfer Bil Cam-drin Domestig San Steffan, gan dynnu sylw at waith VAWDASV yng Nghymru
o Cafodd ein gwaith partneriaeth gyda Grŵp Arweinyddiaeth Cymru Gyfan ar Drais, Priodasau Dan Orfod ac Anffurfio Organau Rhywiol Merched ei ymestyn
Yn eu hadroddiad, dywedodd y Cynghorwyr Cenedlaethol:
"Mae'n deg dweud bod trais domestig a cham-drin rhywiol yn parhau i fod yn epidemig yn ein hoes, ac er gwaethaf y cynnydd a wnaethom, mae llawer o waith i’w wneud.
"Credwn yn ddiffuant fod yr amcanion a bennwyd gennym y llynedd yn helpu i drawsnewid y sefyllfa mewn perthynas â VAWDASV yng Nghymru.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaethau arbenigol VAWDASV a phartneriaid allweddol yng Nghymru. Mae VAWDASV yn fusnes i bawb – mae angen clywed lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn uchel ac yn glir. Rydym yn erfyn arnoch i wrando. "
Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'n Cynghorwyr Cenedlaethol gwych am yr arbenigedd a'r egni y maent yn dod â nhw i'w gwaith, ac am eu cefnogaeth barhaus.
"Mae eu hadroddiad yn disgrifio cynnydd yn erbyn cyfres o amcanion heriol. Rwy'n falch ei fod yn cydnabod y camu breision y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ac yn parhau i’w cymryd.
"Fodd bynnag, mae'n gwbl atgas fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fodoli heddiw yn ein cymdeithas. Mae hyn yn bla gwirioneddol ar gymunedau, unigolion a theuluoedd cyfan.
"Rwy'n falch bod Cymru'n arwain y ffordd gyda'n deddfwriaeth a'r gwaith hollbwysig y mae pobl a sefydliadau yn ei wneud ledled y wlad i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben, i bawb."