English icon English
EU citizens hearts WEL

‘Mae Cymru’n cefnogi dinasyddion yr UE sydd am aros yma ar ôl Brexit’ yw neges Jeremy Miles

We want EU to stay – Jeremy Miles

Mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, wedi cymell pobl ym mhob cwr o Gymru i helpu i rannu’r neges a sicrhau bod y degau o filoedd o ddinasyddion yr UE sy’n byw yma yn ymwybodol o’u hawliau ar ôl Brexit.

Newyddion Llywodraeth Cymru
Dydd Iau 14 Tachwedd

‘Mae Cymru’n cefnogi dinasyddion yr UE sydd am aros yma ar ôl Brexit’ yw neges Jeremy Miles

Mae Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, wedi cymell pobl ym mhob cwr o Gymru i helpu i rannu’r neges a sicrhau bod y degau o filoedd o ddinasyddion yr UE sy’n byw yma yn ymwybodol o’u hawliau ar ôl Brexit.

Wrth i’r Swyddfa Gartref gyhoeddi ei ffigurau diweddaraf ar nifer y ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn meddwl y gallwn, bob un ohonom, chwarae ein rhan i sicrhau bod pawb sy’n dymuno aros yng Nghymru yn gallu gwneud hynny.

Dywedodd Mr Miles: “Mae Cymru wedi dod yn gartref i filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economaidd Ewrop a’r Swistir. Mae’r unigolion hyn yn cael eu gwerthfawrogi yn eu cymunedau ac maen nhw’n cyfrannu at ein busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus anhygoel bob dydd. Maen nhw’n ffrindiau, yn gymdogion ac yn gyd-weithwyr inni.

“Rydyn ni am weld pob dinesydd yr UE yng Nghymru yn gallu parhau i fyw a gweithio yma, felly rydw i’n galw ar bob un sydd angen ymgeisio i wneud hynny. Os ydych chi’n adnabod rhywun rydych chi’n meddwl y gallai fod angen iddo ef neu iddi hi ymgeisio, rhywun nad yw’n deall neu’n ymwybodol o’r angen i wneud hynny efallai, yna gwnewch ffafr â nhw a rhowch wybod iddyn nhw am y cynllun a sut i ymgeisio.

“Hoffwn annog unigolion i gymryd mantais hefyd o’r cymorth a’r gwasanaethau ychwanegol rydyn ni’n eu cynnig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth gydag achosion mwy cymhleth, cyngor ar eich hawliau, a gwell mynediad at gymorth. Rydw i’n gobeithio y gall yr holl bethau hyn helpu i annog mwy o unigolion i ymgeisio, gan gynnwys o’r grwpiau hynny sy’n fwy anodd eu cyrraedd.”

Ar hyn o bryd, mae gan bob dinesydd yr UE, Ardal Economaidd Ewrop a’r Swistir a’u teuluoedd sy’n preswylio yn y DU hyd at 31 Rhagfyr 2020 i gyflwyno cais i’r cynllun.

Bydd statws preswylydd sefydlog yn rhoi hawl i ddinasyddion yr UE fyw, gweithio ac astudio yn y DU a’r hawl i gael mynediad at wasanaethau fel y maent yn ei wneud nawr, ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Gall dinasyddion sydd wedi bod yn preswylio yma yn barhaus ers pum mlynedd wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Gall y rheini nad ydynt wedi bod yn preswylio yma yn barhaus am bum mlynedd wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth ar gyfer dinasyddion yr UE sydd ag anghenion mwy cymhleth neu heriau penodol, i’w helpu gyda’r broses ymgeisio.

Mae’r pecyn cymorth hwn:
• Yn cynnig cymorth gyda cheisiadau a rhoi cyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau’r gweithle drwy’r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru;
• Yn darparu gwasanaeth cynghori ar fewnfudo rhad ac am ddim sy’n cynnig cyngor arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, wedi’i ddarparu gan yr arbenigwyr ar gyfraith yn gysylltiedig â mewnfudo, Newfields Law;
• Yn gweithio gydag amrywiaeth o elusennau a phartneriaid ym mhob rhan o Gymru i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ymgeisio am statws preswylydd sefydlog mewn cymunedau agored i niwed ac sy’n anodd eu cyrraedd.
• Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn eusswales.com

 

Nodiadau i olygyddion

For further information, please see: https://www.gov.uk/government/statistics/announcements/eu-settlement-scheme-statistics-october-2019