English icon English
Income-2

“Mae ein cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect cyffrous sy’n dod â sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sydd ei angen fwyaf.”

“Our Basic Income pilot is an exciting project to deliver financial stability for a generation of young people that need it most.”

Cyhoeddi cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl sy’n Gadael Gofal

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt

Yn dilyn trafodaethau â nifer o arbenigwyr, rhanddeiliaid a phobl sy’n gadael gofal, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau i estyn cymorth i bobl sy’n gadael gofal drwy gynllun peilot Incwm Sylfaenol yng Nghymru.  

Bydd y cynllun peilot yn ehangu’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc wrth iddynt adael gofal ac yn asesu’r effaith a gaiff hynny arnynt. Bydd yn rhoi prawf ar gyfer y manteision a nodir o incwm sylfaenol, fel mynd i’r afael â thlodi a diweithdra a gwella iechyd a lles ariannol. 

Bydd pob person ifanc sy’n gadael gofal ac yn troi’n 18 oed yn ystod cyfnod o 12 mis, o holl ardaloedd yr awdurdodau lleol yn cael cynnig bod yn rhan o’r cynllun peilot hwn.  Bydd yn cychwyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ac rydym yn rhagweld y bydd dros 500 o bobl ifanc yn gymwys i ymuno â’r cynllun.

Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am o leiaf dair blynedd, a bydd pob aelod o’r garfan yn cael taliad incwm sylfaenol o £1600 y mis am gyfnod o 24 mis o’r mis ar ôl iddynt droi’n 18 oed. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod yn uniongyrchol â phobl sy’n gadael gofal wrth ddatblygu’r cynllun peilot. Maent hefyd wedi bod yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol mewn Awdurdodau Lleol ac wedi sefydlu Grŵp Cynghori Technegol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Marmot, sy’n dwyn ynghyd arbenigwyr mewn incwm sylfaenol a chymorth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal i lywio gwaith datblygu a gwerthuso’r cynllun peilot.

Wrth amlinellu’r rhesymeg sy’n sail i’r cynllun peilot, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae ein cyhoeddiad heddiw am Incwm Sylfaenol yn cyd-fynd â dyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael cymorth. Rydyn ni’n ymwybodol ein bod mewn argyfwng costau byw ac yn benderfynol o edrych am y ffyrdd gorau i gefnogi unigolion yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi.

Mae gan bobl sy’n gadael gofal yr hawl i gael cymorth priodol wrth iddynt ddatblygu’n oedolion ifanc annibynnol. Hefyd, mae’n bwysig nodi bod y polisi yn cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n pwysleisio ein hymrwymiad i gryfhau hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Er hynny, mae gormod o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio datblygu i fod yn oedolion. Mae ein cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect cyffrous sy’n dod â sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl if.anc sydd ei angen fwyaf. Mae ein cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect cyffrous sy’n dod â sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sydd ei angen fwyaf.

Bydd y cynllun yn ychwanegu at gymorth sydd eisoes yn bodoli ac yn cael ei gynnig i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i roi’r cyfle gorau iddynt ddilyn llwybr eu hunain. Dylai’r cynllun wneud y profiad o adael gofal fod yn rhywbeth positif, hawdd a gwell.

Rydym yn benderfynol o gefnogi’r rheini sy’n byw mewn tlodi, gan sicrhau eu bod yn cael cymorth ariannol digonol, fel y gall pawb yng Nghymru fyw bywyd hapus ac iach.”

Wrth bwysleisio pwysigrwydd y cynllun peilot i bobl sy’n gadel gofal, dywedodd Catriona Williams OBE, Cadeirydd Voices from Care Cymru:

"Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi treulio amser gyda phobl ifanc o bob cwr o Gymru ddydd Sadwrn, i wrando ar eu barn am y cynllun peilot. Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar farn pobl ifanc a phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ynghylch penderfyniadau fel hyn sy’n cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau os ydym am weld y cynllun hwn yn llwyddo. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot yn llwyddiannus ac yn rhoi’r canlyniadau gorau posibl i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, fel bod modd iddynt fynd o nerth i nerth." 

Dywedodd Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar Incwm Sylfaenol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Marmot:

"Mae Grŵp Cynghori Technegol Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru eisiau datgan ein cefnogaeth i'r polisi hwn.  Er y gall fod gennym farn wahanol ar sut y gall incwm sylfaenol weithio ar raddfa ehangach, gallwn i gyd gytuno y dylid croesawu unrhyw gynllun sydd â'r nod o helpu grŵp arbennig sy’n fregus. Mae’r grŵp yn bwriadu rhoi'r cymorth sydd ei angen i Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn llwyddiant."

I gloi, gan amlinellu pwysigrwydd mesur y canlyniadau a sicrhau bod pobl sy’n gadael gofal yn cael cefnogaeth barhaus yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r cynllun peilot hwn wedi’i lunio’n benodol i alluogi cyfranogwyr i gael mwy na throsglwyddiad o’r arian sylfaenol; bydd y cymorth hefyd yn cael ei gynnig i feithrin hyder pobl ifanc i fynd eu ffordd eu hunain ar ôl gadael gofal.

Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn cynnwys, er enghraifft, hyfforddiant am les ariannol a gwasanaeth i gyfeirio pobl at yr holl gymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy’n bartneriaid.

Rwy eisiau diolch i’r holl randdeiliaid, yr arbenigwyr a’r sefydliadau sy’n bartneriaid sydd wedi gwireddu hyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i  weithredu dros bobl Cymru, gan sicrhau ein bod ni’n rhoi cymorth i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae ein cynllun peilot incwm sylfaenol yn cyflawni ein hamcanion ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ac yn pwysleisio’r ymrwymiad sydd gennym i fynd i’r afael â phroblem tlodi.”