
Mae seren Gavin a Stacey, Ruth Jones, yn cael croeso 'tidy' yng Ngwobrau Dewi Sant, ochr yn ochr ag enillwyr arbennig eraill
Gavin and Stacey star Ruth Jones gets a ‘tidy’ welcome at the St David Awards, alongside other inspirational winners
Mae'r actores Ruth Jones o'r gyfres Gavin and Stacey, sy’n enwog yng Nghymru a thrwy'r byd fel y cymeriad Nessa, wedi cael gwobr arbennig.
Roedd cyd-awdur y gyfres yn sicr o fod wedi gofyn 'what's occurring' pan gafodd ei gwobrwyo am fod wedi cipio calon y genedl a rhoi Cymru ar lwyfan y byd.
Gwnaeth miliynau o bobl wylio’r rhaglen a chafodd cyfraniad nodedig Ruth at fywyd diwylliannol ei gwlad ei gydnabod yng Ngwobrau Dewi Sant.
Enillwyr eraill oedd tîm Achub Mynydd Llanberis, a gafodd eu gwobrwyo am eu hymroddiad anhygoel i achub bywydau pobl.
A hwythau yn eu 12fed flwyddyn, mae gwobrau cenedlaethol Cymru yn cydnabod pobl o bob cwr o'r wlad mewn meysydd fel gwirfoddoli, dewrder, busnes a'r gymuned.
Cafodd tîm Achub Mynydd Llanberis eu canmol gan y beirniaid am eu dewrder, ac am fod yn hanfodol i wneud y mynyddoedd yn ddiogel.
Ymhlith yr enillwyr eraill yr oedd Justin Biggs a fentrodd ei fywyd trwy achub dau berson o du mewn i gar a oedd wyneb i waered yn y dŵr ger clwb hwylio Bae Caerdydd.
Wrth siarad yn y seremoni yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Rwy'n falch iawn o gael dathlu llwyddiant ysgubol Ruth Jones. Mae hi wedi dangos cynhesrwydd a ffraethineb pobl Cymru i’r byd. Rydyn ni'n falch fod gennym dalent mor enfawr."
"Mae Ruth Jones (drwy Ness yn Gavin and Stacey) wedi’n galluogi ni fel Cymry i chwerthin amdanom ein hunain, ac am y pethau unigryw rydyn ni'n eu gwneud a'u dweud. Oherwydd hynny rydym wedi dod yn fwy hyderus a chyfforddus fel cenedl, ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at bobl o bedwar ban byd yn dod i garu’r Cymry."
"Mae Ruth Jones wedi gwneud mwy i roi ein gwlad ar y map nag unrhyw un arall mewn degawdau – ac ni allwn fod yn fwy balch ohoni."
"Gwobrau eleni yw fy ngwobrau cyntaf fel Prif Weinidog, sy'n gwneud yr achlysur yn un arbennig iawn i mi."
"Mae wedi bod yn fraint cael anrhydeddu grŵp o bobl mor rhyfeddol o dalentog a dewr. Mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd."
Dywedodd Cadeirydd Panel Cynghori Gwobrau Dewi Sant 2025, yr Athro Jean White CBE:
"Mae'r profiad o fod yn un o'r beirniaid wedi bod yn emosiynol weithiau wrth glywed straeon am ddewrder pobl ac am drechu adfyd i lwyddo. Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes."
Cafodd pob enillydd dlws Gwobrau Dewi Sant, wedi'i ddylunio a'i wneud gan yr artist cerameg amlwg, Daniel Boyle o Geredigion.
Yr enillwyr yw:
- Person Ifanc - Dylan Buller
- Dewrder - Justin Biggs
- Busnes - Bad Wolf Ltd
- Arwr Cymunedol - Paul Bromwell
- Diwylliant - David Hurn
- Ceidwad yr Amgylchedd - Peter Stanley
- Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Immunoserv
- Gwasanaethu’r Cyhoedd - Patrick Watts
- Chwaraeon - Emma Finucane MBE
- Gwirfoddoli - Tîm Achub Mynydd Llanberis