Cymru'n anelu at ddod yn ailgylchwr orau'r byd wrth i'r Llywodraeth gyhoeddi ei strategaeth Economi Gylchol
Wales aims to become world number one recycler as it announces Circular Economy strategy
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth uchelgeisiol i ategu adferiad gwyrdd yng Nghymru drwy symud i 'Economi Gylchol', wrth inni ymdrin â her driphlyg y pandemig, y newid yn yr hinsawdd a Brexit.
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth uchelgeisiol i ategu adferiad gwyrdd yng Nghymru drwy symud i 'Economi Gylchol', wrth inni ymdrin â her driphlyg y pandemig, y newid yn yr hinsawdd a Brexit.
Wrth wneud 'Mwy nag Ailgylchu', mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn arwain Cymru tuag at Economi Gylchol, lle mae adnoddau ac eitemau’n cael eu cadw a’u defnyddio cyhyd ag y bo modd ac lle mae gwastraff yn cael ei osgoi.
Cymru eisoes yw’r drydedd wlad orau ar gyfer ailgylchu yn y byd – nod y strategaeth newydd yw gwneud Cymru y gyntaf yn y byd.
Ond y nod yw mynd ymhellach na hyn – a hefyd arwain y byd o ran ailddefnyddio, trwsio ac ailweithgynhyrchu’r hyn a fyddai fel arall yn cael ei daflu, drwy leihau faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu yng Nghymru, a thrwy leihau faint o eitemau untro diangen rydym yn eu defnyddio ac sydd yn aml yn cael eu taflu ar y llawr.
Daw'r strategaeth ar adeg bwysig mewn byd sy'n newid. Nid yw symud i Economi Gylchol, sy'n dileu gwastraff drwy leihau'r defnydd o eitemau sy’n cael eu taflu, a throi deunyddiau a fyddai wedi cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi yn flaenorol yn adnoddau gwerthfawr, erioed wedi bod yn bwysicach.
Felly, mae'r strategaeth hefyd yn nodi sut y gallwn adeiladu ar lwyddiant Cymru fel gwlad ailgylchu yn ein hymateb i heriau parhaus pandemig COVID-19 a'r argyfwng hinsawdd.
Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i hyrwyddo newid sylweddol ym maes caffael yn y sector cyhoeddus, gwerth £6.7 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, gyda busnesau carbon isel sy'n defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon yn cael blaenoriaeth ar gyfer tendrau sy'n defnyddio arian cyhoeddus.
Dros y flwyddyn diwethaf, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer prosiectau economi gylchol yn gyflym o £6.5 miliwn i £43 miliwn.
Mae hyn wedi cefnogi 180 o fentrau ym mhob rhan o Gymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i drwsio eu nwyddau sydd wedi torri, ailddosbarthu bwyd iachus a fyddai fel arall wedi cael ei daflu, neu ailbwrpasu potiau a phlastigau i wneud dodrefn ar gyfer y cartref.
Un prosiect o'r fath yw Smile Plastics yng Ngŵyr, Abertawe, sy'n troi hen ddeunyddiau pacio plastig yn ddodrefn mewnol modern. Yn 2020 buddsoddodd Llywodraeth Cymru a WRAP (Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) £300,000 yn y cwmni i ehangu a chynyddu ei gynhyrchiant, wrth ariannu 18 o swyddi newydd.
Dywedodd Rosalie McMillan, Cyfarwyddwr Sefydlu Smile: "Rydyn ni wedi gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, ond plastigau yw ein prif gariad. Rydyn ni’n defnyddio plastigau ôl-ddiwydiannol, plastigau masnachol a phlastigau untro o faes manwerthu – yn aml deunyddiau pacio bwyd a meddygol.
"Mae plastigau fel y rhain fel arfer yn werth isel i'r diwydiant rheoli gwastraff ac mae perygl y byddant yn mynd i safleoedd tirlenwi neu gael eu llosgi.
"Fodd bynnag, drwy ddylunio, rydym yn troi'r categorïau gwerth yn wyneb i waered, gan greu deunyddiau gwerth uchel y mae pobl am fod o’u cwmpas."
Menter arall sydd wedi cael ei chefnogi gan y Gronfa Economi Gylchol yw toogoodtowaste, elusen o'r Rhondda sydd wedi cefnogi'r cymunedau cyfagos ers dros 25 mlynedd, gan gasglu nwyddau diangen a'u hailwerthu am brisiau fforddiadwy.
Derbyniodd yr elusen £36,000 yn ddiweddar gan y Gronfa, gan eu galluogi i gynyddu capasiti yn eu hystafell arddangos yn Nhreorci, a chaniatáu i ragor o breswylwyr gael gwared ar eu nwyddau cartref diangen.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Drwy ein helpu i reoli ein hadnoddau, bydd y camau a nodir yn y strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' yn ein helpu i hyrwyddo ein hadferiad gwyrdd o bandemig y coronafeirws, Brexit ac effaith yr argyfwng hinsawdd – yn ogystal â chwarae rhan hanfodol ac angenrheidiol yn ein taith tuag at ddod yn genedl carbon sero-net erbyn 2050.
"Ond yn ogystal â'n helpu i wynebu'r heriau hynny, mae'r strategaeth hefyd yn nodi sut mae hyn yn gyfle gwych i Gymru.
"Gall ein Heconomi Gylchol arwain y byd, a helpu busnesau nid yn unig i wella’r ffordd rydym yn defnyddio adnoddau yn y wlad hon, ond hefyd i gystadlu'n rhyngwladol.
"Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru lle mae'n chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad gwyrdd o'r pandemig. Mae gennym sector busnes gwyrdd sy'n tyfu ac sy'n helpu i hybu ein cadernid economaidd, a mentrau cymdeithasol ac elusennau sy'n helpu cymunedau i gadw eitemau a’u defnyddio cynifer o weithiau ag y bo modd, a chefnogi aelwydydd sy'n wynebu cyllidebau tyn.
"Mae'r economi fyd-eang yn ystyried potensial yr Economi Gylchol, ond yma yng Nghymru rydym mewn sefyllfa wych i arwain.”