English icon English

Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod bob dydd yng Nghymru

In Wales, every day is International Women’s Day

Mae 100 mlynedd wedi pasio ers Diwrnod Rhyngwladol cyntaf y Menywod. Ers hynny mae wedi tyfu'n ddigwyddiad gwirioneddol fyd-eang - diwrnod sy'n cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan ferched a menywod ledled y byd.

Rydym yn hoffi meddwl ei bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod bob dydd yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i gefnogi merched a menywod i wireddu eu potensial a sicrhau cydraddoldeb.

Dyma rai o'r pethau rydym yn ei wneud i helpu menywod i anelu'n uchel a chyflawni yng Nghymru ar draws yr holl feysydd polisi rydym yn gyfrifol amdanynt.

  1. Mae'r Adolygiad o Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau wedi taflu goleuni ar feysydd y mae angen eu gwella, ac mae wedi ein herio i wneud mwy. Yn ystod yr wythnos i ddod, byddwn yn amlinellu meysydd blaenoriaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf. 
  2. Adlewyrchu Cymru yn Rhedeg Cymru yw ein strategaeth i wella amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus. Rydym yn cefnogi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac EYST i redeg rhaglenni mentora er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Mae angen mwy o fenywod a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol arnom yn ein cyrff cyhoeddus yn ogystal â mewn gwleidyddiaeth a busnes i helpu i redeg Cymru.
  3. Rydym am sicrhau bod merched a menywod ifanc yn cael cefnogaeth i ystyried pob mathau o lwybrau gyrfa, fel rolau STEM. Ymhlith y mentrau sydd ar gael mae Rhaglen Fentora Ffiseg, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru a chynllun peilot Gwella'r Cydbwysedd rhwng y Rhywiau.
  4. Rydym yn creu cyfleoedd yn y gweithle ac yn buddsoddi mewn prentisiaethau. Rydym ar y trywydd i ragori ar ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i unigolion o bob oedran yn ystod y tymor Cynulliad hwn, gan roi'r cyfle i fenywod ddatblygu i fod yn arweinwyr, arloeswyr a phrif weithredwyr yfory.
  5. Mae dros £3.3 miliwn wedi'i ymrwymo eleni i ddarparu nwyddau mislif yn rhad ac am ddim i'r rheini ar incwm isel, ac i ddysgwyr pob ysgol a choleg addysg bellach yng Nghymru. Yn ogystal, rydym yn darparu'r nwyddau hyn i gleifion mewn ysbytai.
  6. Mae ein cynnig gofal plant yn helpu i gefnogi rhieni, yn enwedig mamau, i ddod o hyd i gyflogaeth ac yn ei gwneud yn haws i rieni gael gwaith a'i gadw. Ym mis Gorffennaf 2019, roedd bron i 16,000 o blant yn manteisio ar y cynnig.
  7. Mae 2020 yn nodi pum mlynedd ers cyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Deddfwriaeth arloesol. Mae dros 173,000 o bobl yng Nghymru wedi dilyn hyfforddiant drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod dros 173,00 o bobl yn fwy hyderus i ymateb i'r rheini sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol
  8. Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch y dyfodol. Mae menywod ifanc yn lleisio barn am newid hinsawdd ac eisiau chwarae rhan yn y gwaith o ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Dyma pam rydym wedi cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a fydd hyn yn ehangu'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed ac i bob tramorwr sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru.
  9. Mae cefnogi merched mewn amaeth yn rhan allweddol o'n strategaeth Cyswllt Ffermio i gefnogi busnesau ffermio, bwyd a choedwigaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddarparu pecyn cymorth penodol i fenywod yn ein cymunedau gwledig
  10. Wrth greu polisïau sy'n llywio'r dyfodol, rydym hefyd am gydnabod menywod y gorffennol. Mae ein cefnogaeth i ymgyrch Placiau Porffor, rhestr 100 o Fenywod Cymru a Monumental Welsh Women yn helpu i dynnu sylw at y menywod eithriadol yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at greu'r wlad rydym yn byw ynddi heddiw ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.