English icon English
GDC4-2

Maen nhw’n gêm!: Cwmnïau o Gymru yn arwain y ffordd mewn Cynhadledd ar gyfer Datblygwyr Gemau

Game on: Welsh companies leading the way at the Game Developers Conference

Mae rhai o gwmnïau meddalwedd a datblygu gemau mwyaf blaenllaw Cymru wedi bod yn San Francisco yr wythnos yma yng nghynhadledd flynyddol fwya’r diwydiant gemau, diolch i gymorth Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru.

Y Game Developers Conference (GDC) yw cynhadledd flynyddol fwya’r diwydiant gemau fideo proffesiynol yn y byd a’r pinacl ar gyfer arddangos y gorau yn y diwydiant. Yn 2019, denodd rhagor na 29,000 o aelodau’r diwydiant gemau ac mae’n ddyddiad pwysig ar ddyddiadur unrhyw aelod o’r proffesiwn sydd am ennyn sylw, cefnogaeth a hygrydedd i’w waith.

Yng Nghymru, mae technoleg gemau’n faes sy’n tyfu ac yn sail ar gyfer datblygu cynnyrch newydd. Diolch i rwydweithiau cryf y diwydiant ac ysbryd gydweithredol, gall busnesau gemau Cymru fanteisio ar gronfa o dalent gafodd ei hyfforddi yn ein prifysgolion, o ddylunwyr ac artistiaid 3D i raglenwyr a pheirianwyr sain.

Mae datblygwyr gemau o bob cwr o’r wlad yn cynhyrchu campweithiau rhyngweithiol, gyda’r de-ddwyrain a’r Gogledd-ddwyrain yn arbennig o ffrwythlon. O’r ardaloedd hynny, dechreuodd brandiau fel Wales Interactive a Tiny Rebel Games ar eu taith i sgriniau ledled y byd. Yng Ngorllewin Cymru, mae Goldborough Studios yn cynhyrchu gemau dan cymeriad o safon uchel. Ar hyn o bryd mae'r stiwdio'n gweithio ar Yami ei gêm PC/Console gyntaf.

Amcangyfrifir bod diwydiant gemau’r DU yn werth £7bn yn 2020 – cynnydd o 29.9% ers 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i helpu cwmnïau o Gymru i dyfu ac i werthu drwy’r byd, yn ogystal ag i gefnogi cyfleoedd mewnfuddsoddi.

Mae stondin wedi bod gan Gymru yn y Gynhadledd ers 2017 gan roi cyfle gwych i hyrwyddo cwmnïau gemau Cymru i gynulleidfa fyd-eang. Yn y GDC yn 2019, cofnodwyd cytundebau gwerth £2.6m gan gwmnïau o Gymru.

Roedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, hefyd yn GDC wythnos yma, gyda charfan gref o 18 o gwmnïau gemau mwyaf blaenllaw Cymru, fel rhan o Daith Fasnach o dan arweiniad y Llywodraeth i orllewin yr Unol Daleithiau.

Cyn troi am San Francisco, ymwelodd y Gweinidog ag un o gwmnïau’r daith, sef Wales Interactive, yn eu cartref yn Tec Marina, Penarth.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Yng Nghymru, rydyn ni o ddifrif am ein gemau a thechnoleg gemau. Rydyn ni’n cefnogi cymuned lewyrchus o fusnesau arloesol sy’n gwneud y gorau o’r talent lleol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol.

“Mae’n rhan bwysig o’n diwydiannau creadigol ac yn cynnig swyddi bras a chynaliadwy. Dyna pam ein bod yn rhoi’r gefnogaeth i ddatblygwyr gemau sydd ei hangen arnynt i droi ffrwyth eu hawen yn realiti ac i gynyddu eu potensial mewn sector sy’n newid yn gyflym. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod y sector yn cael y bobl dalentog a galluog sydd ei angen arno i dyfu a ffynnu.

“Gyda phobl o bob rhan o’r byd yn bresennol, roedd y digwyddiad yn gyfle heb ei ail i fusnesau o Gymru hyrwyddo’u hunain a chyda Cymru Greadigol, i ddangos i fuddsoddwyr yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Wales Interactive yw’r cyhoeddwr ffilmiau rhyngweithiol mwyaf ond un yn y byd. Dywedodd Richard Pring, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Wales Interactive:

“Byth ers i ni fynd ar y trip cyntaf saith mlynedd yn ôl, mae taith fasnach Llywodraeth Cymru i’r GDC wedi bod yn ddyddiad pwysig ar ein calendr. Yn yr amser hwnnw, mae’r Gynhadledd wedi creu cannoedd o gyfleoedd busnes a rhwydweithio i ni a chyfleoedd hefyd i ddangos gemau a thalentau gorau Cymru ar lwyfan y byd flwyddyn ar ôl blwyddyn!”