Mae’n rhaid i Gymru dderbyn cyfran deg o’r cyllid Ymchwil a Datblygu i gyflawni ei photensial – Gweinidog yr Economi
Wales must have fair share of R&D funding to fulfil its potential – Economy Minister
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi annog Llywodraeth y DU i gefnogi Cymru i gyrraedd ei photensial llawn drwy sicrhau bod cyfran deg o’r cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cael ei gyfeirio tuag at brosiectau Cymru.
Wrth siarad yn nigwyddiad y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ddydd Mercher am y Map Ffordd Ymchwil a Datblygu, a sicrhau yr un statws, ochr yn ochr â Gweinidog Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi y DU, Amanda Solloway AS, galwodd y Gweinidog ar Lywodraeth y DU i fynd ymhellach wrth sbarduno arloesi yng Nghymru.
Tynnodd sylw at y ffaith bod Cymru, er ei bod yn cynnwys pump y cant o boblogaeth y DU, ond yn derbyn dau y cant o fuddsoddiad Ymchwil a Datblygu y DU.
Mae gwariant gyhoeddus ar Ymchwil a Datblygu yn canolbwyntio mwy ar Lundain, Dwyrain Lloegr a De-ddwyrain Lloegr, gyda’r rhanbarthau hynny yn cyfrif am 52% o’r gwariant, er gwaethaf y ffaith mai dim ond 37% o’r boblogaeth sydd yno.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Mae llewyrch a sefydlogrwydd y DU yn y dyfodol yn dibynnu ar sicrhau bod pob gwlad yn gallu cyfrannu at economi arloesol a chynhyrchiol, ac rwyf am weld Cymru yn cael pob cyfle i gymryd rhan yn hyn a chyrraedd ei photensial llawn.
“Yn anffodus, mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yr economi mwyaf anghytbwys yn rhanbarthol yng Ngorllewin Ewrop.
“Mae’r system hanesyddol wedi golygu bod rhanbarthau y DU sy’n amlwg ym maes gwariant Ymchwil a Datblygu yn cael mantais annheg dros rannau eraill y DU. Nid yw Cymru yn cael yr un cyfleoedd â rhanbarthau eraill y DU, ac mae’r gwahaniaeth hwn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei gywiro a’i ail-ystyried yn gyflym.
“Dwi’n croesawu y symudiad tuag at ddarparu cyllid Ymchwil a Datblygu i ardaloedd penodol, ond hoffwn bwysleisio eto ei fod yn hollbwysig sicrhau cydbwysedd teg ar draws gwledydd a rhanbarthau y Deyrnas Unedig.”
Mae gan Gymru hanes balch o gefnogi ymchwil ac arloesi blaengar ac mae yn cystadlu’n fyd-eang yn y maes hwn. Mae’r rhai sydd wedi elwa o gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn cynnwys AMRC ym Mrychdyn, MSparc ar Ynys Mȏn, canolfan ymchwil milfeddygol Aberystwyth, y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol yng Nglyn Ebwy a chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi hefyd mewn gallu ymchwil ac arloesi niwclear yng Ngogledd Cymru, yn fwyaf amlwg drwy raglen Sêr Cymru, megis y Ganolfan Hydrolig Thermol Genedlaethol a chreu grŵp ymchwil y Sefydliad Dyfodol Niwclear.
Ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £500 miliwn o gronfeydd strwythurol yr UE mewn ymchwil ac arloesi.
Mae cyllid yr EU wedi gwneud cyfraniad mawr i gynyddu maint, ansawdd ac effaith y gwaith ymchwil yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd daw y cyllid hwnnw i ben, a dywedodd y Gweinidog unwaith eto bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gadw at eu haddewid na fydd Cymru yn dioddef dim o ganlyniad i Brexit.
Ychwanegodd y Gweinidog: “Rydyn ni am weld ymrwymiad clir i wneud yn iawn i’r geiniog olaf am y Cyllid Strwythurol rydyn ni’n ei golli.
“Byddai tegwch o’r fath yn cynnig y cyfle i Gymru fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael a pharhau gyda’i gweithgareddau arloesi rhagorol, llawer ohono wedi ei ariannu yn y gorffennol gan gyllid yr UE. Gallai’r symudiad yma i gefnogi arloesi yng Nghymru sbarduno twf economaidd am ddegawdau o bosibl.
“Dwi am i Gymru ddatblygu ei chapasiti ar lefel sy’n briodol i’w gallu, nid er ein lles ein hunain yn unig, ond hefyd i sicrhau y gallwn wneud y cyfraniad gorau posibl at dwf a llewyrch hirdymor y DU. Rydyn ni wedi dangos ei bod yn bosibl yma yng Nghymru, ac mae gennym yr uchelgais i ddefnyddio buddsoddiadau, megis AMRC yn Sir y Fflint a NDEC ym Mlaenau Gwent, fel catalyddion i ddenu rhagor o fuddsoddiad a datblygiad.
“Bydd hyn yn galw am ddatganoli cyllid ar raddfa fawr – ac mae’n hanfodol ein bod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael effaith arnom.
“Rydyn ni’n barod i fod yn bartner adeiladol i helpu i gyflawni’r agenda hon.”