‘Mae'r cynllun optio allan ar gyfer rhoi organau wedi trawsnewid bywydau – meddai'r Gweinidog iechyd bum mlynedd ers i'r cynllun gael ei gyflwyno
‘Opt-out organ donation scheme has transformed lives’ – celebrates Health Minister on fifth anniversary of scheme’s introduction
Mae bywydau wedi cael eu trawsnewid yn sgil cyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau yng Nghymru a dylem fod yn falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni' -meddai'r Gweinidog Vaughan Gething bum mlynedd yn union ers i'r cynllun gael ei gyflwyno.
Bum mlynedd yn union i heddiw (1 Rhagfyr) arweiniodd Cymru'r ffordd trwy cyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau, lle y rhoddwyd caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau oni bai bod y person wedi optio allan.
Mae'r system wedi bod mor llwyddiannus fel bod Lloegr bellach wedi cyflwyno system optio allan. Bydd yr Alban yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf a bydd Gogledd Iwerddon yn ymgynghori ar newid tebyg.
Ers i'r cynllun gael ei gyflwyno yng Nghymru mae nifer y bobl sy'n optio i mewn i'r Gofrestr Rhoi Organau wedi codi 4% o 138,527 yn 2016/17 i 1,300,494 yn nau chwarter cyntaf 2020/21.
Mae cyfraddau cydsynio ar gyfer rhoi organau wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yng Nghymru sef 77% yn 2018/19, ar ôl bod mor isel â 58% yn 2015/16
Cafodd mwy na 200 o drawsblaniadau organau eu cwblhau ar gleifion yng Nghymru ym mhob un o'r ddwy flynedd ddiwethaf; codiad o 11% o 180 yn 2017/18.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Dros y pum mlynedd diwethaf mae bywydau pobl wedi cael eu trawsnewid ar ôl cael organ. Nid yn unig hynny ond mae teuluoedd rhoddwyr organau hefyd wedi cymryd cysur o'r ffaith bod eu hanwyliaid wedi rhoi bywyd i eraill.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl o gwbl heb haelioni'r rhoddwyr a'u teuluoedd sydd wedi cefnogi'r system,a hefyd ymroddiad yr holl staff clinigol.
“Dylem fod syn hynod o falch o arwain y ffordd gyda chynllun optio allan ar gyfer rhoi organau yng Nghymru a dangos gweddill y DU y gallai cynllun o'r fath weithio.
“Nid yn unig y mae’r hyn rydym wedi’i gyflawni wedi achub bywydau a gwella ansawdd bywyd pobl, ond hefyd bu’n esiampl o beth y gall wlad dosturiol ei wneud i ofalu am ei dinasyddion.
“Bydd lle i wella o hyd ac mae angen i bobl fagu hyder i drafod mater rhoi organau gyda'u teuluoedd, ond bydd y cynnydd rydym wedi'i wneud yn y pum mlynedd diwethaf yn para am genedlaethau i ddod."