English icon English

Mannau cymunedol hanfodol yn cynnig croeso cynnes drwy gydol y flwyddyn

Vital community spaces offer a warm welcome all year round

Mae mwy na 600 o fannau cymunedol ledled Cymru yn elwa ar £1.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddarparu lleoedd cynnes, diogel a chroesawgar i bobl drwy gydol y flwyddyn.

Gall pobl o bob oed alw heibio i gael mynediad at gymorth gyda phethau fel dyled neu filiau ynni, gwirio eu bod yn cael yr help sydd ar gael iddynt, neu ymuno â sesiynau cymdeithasol sy'n ceisio lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd. Bydd eraill o bosibl am roi cynnig ar rywbeth newydd neu gwrdd â phobl yn eu cymuned dros baned neu ddiod oer.

Pobl a sefydliadau lleol sydd wrth wraidd y canolfannau hyn, yn gweithio gyda'i gilydd i greu mannau cynhwysol sy'n agored, yn groesawgar ac yn ymarferol.

Heddiw, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn ymweld â chanolfan Cyn-filwyr y Cymoedd yng Nghanolfan Gymunedol Ton a Gelli yn Rhondda Cynon Taf, i weld drosti ei hun sut mae'r cyllid yn cefnogi'r cymunedau lleol.

Mae'r ganolfan yn cynnig gwiriadau iechyd, sesiynau therapi iechyd meddwl, clybiau brecwast a gweithgareddau cymdeithasol i gyn-filwyr ac i’r gymuned ehangach.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyn-filwyr y Cymoedd, Paul Bromwell: "Heb y ddarpariaeth hon, byddai llawer o aelodau o'n cymuned yn wynebu caledi ac yn teimlo'n ynysig, ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi â heriau fel costau cynyddol ac adnoddau prin. Mae'n fraint gweithio gyda nhw, gan ddarparu nid yn unig cynhesrwydd a maeth ond cwmnïaeth a chefnogaeth hefyd, gan sicrhau nad oes neb yn teimlo'n angof nac ar ei ben ei hun."

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae wedi bod yn bleser ymweld â chanolfan Cyn-filwyr y Cymoedd heddiw a gweld y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'n ei wneud. Mae'r canolfannau hyn yn ymwneud â mwy na darparu cynhesrwydd corfforol yn y gaeaf - maen nhw'n ymwneud â chysylltiad, cymuned a gwybod bod rhywun yno i siarad â nhw.

"Mewn cyfnod anodd, mae'n hanfodol bod pobl yn gwybod lle i droi am help. Drwy fuddsoddi yn y mannau croesawgar hyn, rydym yn sicrhau bod cymorth yn parhau i fod ar gael mewn cymunedau lleol ledled Cymru pryd bynnag y mae ei angen."