Merch o Flaenau Gwent yn gobeithio y bydd cwrs yn arwain at ei swydd ddelfrydol
Blaenau Gwent teenager hoping course at Wales first-centre will be key to dream job
Mae merch yn ei harddegau ym Mlaenau Gwent sydd wedi'i chofrestru ar gwrs Peirianneg Chwaraeon Modur mewn canolfan newydd, y cyntaf o'i math yng Nghymru, wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd gwneud y cwrs yn arwain at ei swydd ddelfrydol.
Mae Holly O'Dwyer ymhlith nifer cynyddol o ferched sy’n astudio yng Nghanolfan Deunyddiau Uwch Dennison (DAMC) yng Ngholeg Gwent, canolfan hollol arloesol, sydd wedi'i lleoli ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, yng Nglynebwy.
Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r ganolfan, a gafodd ei hagor yn 2018 gan Weinidog yr Economi, Ken Skates. Mae'n un o'r ychydig o safleoedd addysg bellach yn y DU sy'n darparu hyfforddiant mewn cyfansoddion uwch, fel ffeibr carbon, ar gyfer awyrenneg a pheirianneg chwaraeon modur.
Dywedodd Holly, sy'n dod o Dredegar, mai'r gwaith ymarferol a gafodd ei addo, gyda deunyddiau, er enghraifft, a'i denodd hi i DAMC.
"Mae'r cyfleusterau yma yn wych, a heb os dyma oedd yr opsiwn gorau imi" ychwanegodd y ferch 16 mlwydd oed.
"O weithio mewn labordai cyfansoddion, i brofi gallu ar efelychydd a gweithio ar ein car rasio ein hunain, rydyn ni’n cael syniad gwirioneddol o’r math o waith byddwn ni’n ei wneud yn y dyfodol.
"Dw i'n gobeithio defnyddio'r sgiliau dw i'n eu dysgu i gael prentisiaeth gyda gweithgynhyrchwr ceir neu gyda'r RAF, a dw i'n credu y bydd hynny'n darparu llawer o gyfleoedd swydd imi."
Mae cwmnïau gweithgynhyrchu yn defnyddio cyfansoddion yn fwyfwy, yn lle deunyddiau traddodiadol, ac mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru gwerth £100,000 yn DAMC wedi cael ei groesawu gan gwmnïau fel Safran Seats UK Ltd a Chynnal a Chadw British Airways Maintenance Caerdydd.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Mae cyfansoddion yn rhan allweddol o'r ymdrechion parhaus i ddatblygu technolegau arloesol a thechnolegau disodli, ac maen nhw eisoes yn cael effaith sylweddol ar weithgynhyrchu gwerth uchel ledled y DU.
"Dw i wrth fy modd yn gweld bod y ganolfan wych hon ar flaen y gad yn y gwaith o ddarparu'r hyfforddiant diweddaraf yn y maes hwn, gan helpu i fodloni galw'r diwydiant heddiw ac ar gyfer y dyfodol, a chodi lefel y sgiliau mae pobl leol yn meddu arnyn nhw.
"Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr fel Holly i gael swyddi o ansawdd uchel gyda rhai o'r cwmnïau gweithgynhyrchu gorau yng Nghymru."
Dywedodd Cyfarwyddwr Campws Parth Dysgu Blaenau Gwent John Sexton:
"Mae'n bleser mawr gen i nodi ein bod bellach yn gallu rhoi profiad o beirianneg i fyfyrwyr fel Holly sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, ac sydd wir yn eu paratoi ar gyfer y dyfodol. Heb os cyfansoddion yw'r dyfodol ym maes technoleg deunyddiau, a bydd cael y wybodaeth hon fel rhan o'u hyfforddiant yn rhoi mantais wirioneddol iddyn nhw yn y gweithle."