English icon English

Merthyr Tudful fydd cartref Pencadlys newydd yr Awdurdod Tomenni nas Defnyddir, gan greu 60 o swyddi

New Disused Tips Authority to be headquartered in Merthyr Tydfil, creating 60 jobs

Bydd pencadlys Awdurdod Tomenni nas Defnyddir newydd Cymru yn cael ei sefydlu ar hen domen lo wedi'i hadfer ym Merthyr Tudful, gan ddarparu tua 60 o swyddi newydd. 

Mae’r corff cyhoeddus newydd yn cael ei greu yn sgil pasio deddf bwysig, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi.  

Bydd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) yn mynd i'r afael â'r problemau diogelwch a achosir gan orffennol glofaol a mwyngloddio Cymru. Dyma’r sefydliad cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. 

Bydd yr Awdurdod yn gyfrifol am asesu, categoreiddio, cofrestru ac archwilio'r holl hen domenni segur ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol dros y tymor hir a lleihau bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd. 

Ar ôl ei greu, caiff ei bencadlys ei sefydlu yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhyd y Car ym Merthyr Tudful a bydd ganddo gynrychiolaeth ledled y wlad. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar bosibiliadau darparu prentisiaethau a chyfleoedd addysg ôl-16 i greu gwythïen o sgiliau ar gyfer swyddi diogelu tomenni glo yn y tymor canolig a hir. 

Mae dros 90% o'r tomenni glo nas defnyddir sydd â'r potensial i fod yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd yng nghymoedd de Cymru. 

Daeth y cadarnhad mai yng nghanol cymunedau y maes glo y bydd cartref yr Awdurdod cyn cyfarfod Cabinet Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ddydd Llun 3 Tachwedd. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:  

"Mae hyn yn newyddion ardderchog i Ferthyr Tudful a chymoedd y de'n gyffredinol.  

 "Bydd dod â 60 o swyddi newydd i'r Pencadlys newydd a chartrefu'r Awdurdod leoli lle mae ei angen fwyaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yn yr ardal. 

 "Roedd Cymru'n arwain y byd gyda'i harbenigedd glofaol yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Nawr gallwn fod yn arweinydd byd unwaith eto, y tro hwn am ofalu am waddol ein gloddfeydd a'n chwareli a datblygu gwythïen o dalent ar gyfer cenedlaethau i ddod." 

Tan y caiff yr Awdurdod ei sefydlu, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid cyhoeddus i ddarparu cyfundrefn arolygu a chynnal a chadw effeithiol ledled Cymru. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: 

"Mae pwrpas yr Awdurdod – sicrhau nad yw tomenni segur yn bygwth pobl – yn un hynod hynod bwysig. 

"Mae'n dda o beth bod Merthyr Tudful wedi'i ddewis i fod yn gartref i'r pencadlys, yng nghanol y cymunedau a fydd yn elwa fwyaf o'i waith pwysig. 

"Does gen i ddim amheuaeth y daw'n arweinydd byd yn ei faes trwy ddatblygu gwybodaeth, profiad a sgiliau ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn ystod y cyfnod hwn o newid hinsawdd sylweddol."