Mesurau brys yn cael eu cyhoeddi i gefnogi ffermwyr yn ystod yr argyfwng COVID-19
Emergency measures to support farmers during Covid-19 unveiled
Mae cyfres o fesurau brys i gefnogi ffermwyr Cymru yn ystod yr argyfwng COVID-19 wedi cael eu cyhoeddi heddiw [1 Ebrill] gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Mae’r mesurau’n cydnabod y rôl hanfodol mae ffermwyr yn ei chwarae wrth fwydo’r genedl.
I gydnabod yr heriau sy’n wynebu’r sector o ganlyniad i COVID-19, yn ystod adeg o’r flwyddyn sydd fel arfer yn brysur beth bynnag, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi y bydd ffermwyr yn cael mis ychwanegol i gyflwyno eu Ffurflen y Cais Sengl, gyda’r dyddiad cau bellach wedi cael ei estyn i 15 Mehefin.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gofyniad i dyfu amrywiaeth o gnydau, yn dilyn y llifogydd diweddar a’r pwysau ychwanegol a’r ansicrwydd oherwydd yr argyfwng COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn tynnu’r gofyniad yn gyfan gwbl ar gyfer BPS 2020.
Mae £5.5 miliwn ychwanegol wedi cael ei neilltuo i’r BPS a chynllun cymorth Glastir 2019. Bydd y cynlluniau hyn yn ailagor heddiw i roi cymorth i’r ffermwyr hynny nad ydyn nhw wedi derbyn eu taliadau’r BPS a/neu Glastir hyd yn hyn. Bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am gymorth drwy’r cynllun i liniaru unrhyw broblemau llif arian.
Hefyd mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu heddiw at yr undebau ffermio i ddiolch iddyn nhw a’u haelodau am eu gwaith wrth sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn parhau i weithredu.
Ynghynt yr wythnos hon cafodd FarmWell Cymru ei lansio, gyda gwybodaeth a chyngor defnyddiol i helpu busnesau ffermio a ffermwyr i fod yn gydnerth ac i baratoi ar gyfer y dyfodol mewn modd cadarnhaol.
Dywedodd y Gweinidog: “Rydyn ni’n wynebu pandemig byd-eang na welwyd ei fath mewn cyfnod o heddwch. Mae’n adeg bryderus i deuluoedd ledled Cymru, yn enwedig ein cymunedau gwledig a’n cymunedau ffermio.
“Mae ein ffermwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth fwydo’r genedl. Mae hynny’n pwysicach byth yn ystod y pandemig byd-eang hwn ac mae’n hanfodol rydyn ni’n eu cefnogi, a dyna pam dw i’n cyhoeddi heddiw amrediad o fesurau i gefnogi ffermwyr a’u helpu i barhau i gyflawni’r rôl hon.
“Drwy estyn y dyddiad cau ar gyfer yr SAF i 15 Mehefin, rydyn ni’n rhoi’r amser a’r lle i ffermwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd, yn ogystal â chael yr amser i hawlio. Rydyn ni hefyd wedi gwrando ar adborth gan yr undebau ffermio, ac rydyn ni’n tynnu’r gofyniad i dyfu amrywiaeth o gnydau yn gyfan gwbl ar gyfer BPS 2020.
“Y olaf, rydyn ni wedi ailagor y BPS a chynllun cymorth Glastir 2019, i helpu ffermwyr nad ydyn nhw wedi cael eu taliadau ar gyfer 2019, i liniaru’r pwysau llif arian cynyddol drwy wneud cais i’r cynllun.
“Hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i ffermwyr a phawb arall yn y gadwyn gyflenwi am y gwaith rhagorol rydych chi’n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn cyrraedd ein platiau yng Nghymru. Mae’r sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu yn ddigynsail, ond byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i barhau i gefnogi ein cymunedau gwledig gwerthfawr ledled Cymru. Bydd y mesurau dw i wedi eu cyhoeddi heddiw yn helpu ein ffermwyr i barhau i wneud y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ac yn helpu’r sector yn ystod yr adeg anodd hon.”