Mesurau newydd i lacio oriau cyflenwi archfarchnadoedd yn ystod cyfnod y coronafeirws
New measures to relax supermarket delivery hours during Coronavirus outbreak
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar unwaith i ymestyn oriau cyflenwi i archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd eraill er mwyn sicrhau bod modd i’r diwydiant bwyd ymateb i alw uwch gan ddefnyddwyr yn ystod cyfnod y coronafeirws, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James heddiw.
Bydd y mesurau yn llacio cyfyngiadau cynllunio sy’n atal cyflenwi yn ystod y nos ac yn gynnar yn y bore, gan ganiatáu i fanwerthwyr dderbyn cyflenwadau drwy gydol y dydd a’r nos pan fo angen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo awdurdodau cynllunio lleol i lacio, dros dro, y modd y caiff y rheolau hynny eu gorfodi er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r diwydiant bwyd.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James:
“Gan ystyried yr heriau eithriadol y mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfan yn eu hwynebu yn sgil COVID-19, mae’n hanfodol bod modd cyflenwi bwyd, nwyddau hylendid a nwyddau hanfodol eraill dros yr wythnosau nesaf mor gyflym a diogel â phosibl, gan amharu cyn lleied ag y bo modd ar y cadwyni cyflenwi y mae cymunedau yn dibynnu arnynt.
“Bydd y mesurau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau bod modd i siopau aros ar agor i wasanaethu’r gymuned leol.
“Rydym yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr y diwydiant bwyd er mwyn sicrhau bod modd i archfarchnadoedd a manwerthwyr bwyd eraill ymateb i’r sefyllfa yn y ffordd orau bosibl.”
Mesurau dros dro yw’r rhain, a fydd yn cael eu tynnu yn ôl cyn gynted ag y bydd y brys cychwynnol wedi gostwng.
Dywedodd Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru:
“Mae’n galonogol iawn gweld bod Gweinidogion Cymru wedi gwrando ar ein hawgrymiadau ac wedi symud yn gyflym i weithio gydag awdurdodau lleol i wneud oriau cyflenwi siopau a stordai yn fwy hyblyg. Mae’r cadwyni cyflenwi manwerthu yn dal i fod yn gadarn, ond mae’n siopau bwyd a’n fferyllfeydd yn benodol yn ceisio dygymod â galw uchel tu hwnt am rai mathau o nwyddau ac am gymryd pob cam posibl i sicrhau bod y cyflenwad da o nwyddau sydd yn y canolfannau dosbarthu ac o fewn y cadwyni cyflenwi yn cael eu danfon ac ar gael ar silffoedd y siopau ar y cyfle cyntaf. Bydd y mesurau hyn yn helpu i sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i gael nwyddau ar y silffoedd.
“Yn y cyfnod heriol sydd ohoni, dylai cwsmeriaid fod yn dawel eu meddwl bod y cadwyni cyflenwi manwerthu yn gadarn o hyd. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i sicrhau bod y mesurau cywir yn eu lle i leddfu’r heriau presennol mae coronafeirws yn eu hachosi i’r diwydiant.”