Mesurau newydd ynghylch siediau i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar
New housing measures to protect poultry and captive birds against avian flu
Mae'r Prif Filfeddygon o Gymru, Lloegr a'r Alban wedi cytuno i gyflwyno mesurau newydd i helpu i ddiogelu dofednod ac adar caeth yn dilyn nifer o achosion o ffliw adar mewn adar gwyllt a chaeth yn y DU.
Mae'r mesurau newydd ynghylch siediau, a ddaw i rym ar 14 Rhagfyr, yn golygu y bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar gadw eu hadar dan do a dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd a cheisio ei waredu.
Y cyngor iechyd cyhoeddus yw bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn, ac mae cyrff safonau bwyd yn cynghori bod ffliwiau adar yn peri risg isel iawn o ran diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU, ac nid yw'n effeithio ar y fwyta o gynhyrchion dofednod, gan gynnwys wyau.
Mae Prif Filfeddygon y Llywodraethau yn annog ceidwaid adar i ddefnyddio'r 11 diwrnod nesaf i baratoi ar gyfer mesurau newydd ynghylch siediau, gan gynnwys cymryd camau i ddiogelu lles anifeiliaid, ymgynghori â'u milfeddyg a, lle bo angen, sefydlu siediau ychwanegol.
Mae'r mesurau hyn ynghylch siediau yn ychwanegol at y rheoliadau bioddiogelwch cryfach a gyflwynwyd fel rhan o Barth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ar 11 Tachwedd. Mae'r Parth hwn yn golygu bod angen i geidwaid dofednod ac adar caeth gymryd rhagofalon ychwanegol fel glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau, cyfyngu ar fynediad pobl nad ydynt yn hanfodol ar eu safleoedd, a gweithwyr yn newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i amgáu adar.
Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r mesurau newydd ynghylch siediau ar yr un pryd, sy'n golygu y bydd y cyfyngiadau mewn grym ar draws pob rhan o Brydain Fawr.
Dywedodd datganiad ar y cyd gan dri Phrif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr:
"Rydym wedi cymryd camau buan i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ac rydym bellach yn bwriadu cyflwyno gofyniad cyfreithiol i bob ceidwad dofednod ac adar caeth gadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar y dŵr sy’n adar gwyllt.
"P'un a ydych yn cadw ychydig o adar neu filoedd, o 14 Rhagfyr ymlaen bydd gofyn cyfreithiol i chi gadw eich adar dan do, neu gymryd camau priodol i'w cadw ar wahân i adar y dŵr sy’n adar gwyllt. Nid yw hyn yn benderfyniad hawdd i'w wneud, ond hon yw'r ffordd orau o amddiffyn eich adar rhag y clefyd heintus iawn hwn.”
Cynghorir ceidwaid dofednod ac adar caeth i fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o glefyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt, a gofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon. Gallant helpu i atal ffliw adar drwy gynnal bioddiogelwch da ar eu safle, gan gynnwys:
- Cadw pob dofednod ac adar caeth mewn siediau neu eu diogelu gyda rhwydi
- glanhau a diheintio dillad, esgidiau, offer a cherbydau cyn ac ar ôl dod i gysylltiad â dofednod ac adar caeth – os yw'n ymarferol, defnyddiwch ddillad amddiffynnol tafladwy
- lleihau symudiad pobl, cerbydau neu offer i ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth ac oddi mewn iddynt er mwyn lleihau halogiad o dail, slyri a chynhyrchion eraill a defnyddio rheolaeth fermin effeithiol
- glanhau a diheintio siediau yn drylwyr ar ddiwedd cylch cynhyrchu
- cadw diheintydd ffres ar y crynodiad cywir ar bob pwynt lle dylai pobl ei ddefnyddio, fel mynedfeydd fferm a chyn mynd i mewn i siediau neu fannau cadw dofednod ac adar caeth
- lleihau cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, gan gynnwys sicrhau na all adar gwyllt gyrraedd unrhyw borthiant na dŵr
Bydd y mesurau newydd ynghylch siediau mewn grym o 14 Rhagfyr ymlaen a byddant yn cael eu hadolygu'n rheolaidd fel rhan o waith y llywodraeth i ddiogelu diadelloedd.
Dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth ac aelodau o'r cyhoedd roi gwybod i linell gymorth Defra ynghylch adar gwyllt marw ar 03459 33 55 77 a dylai ceidwaid roi gwybod am unrhyw achosion tybiedig i APHA ar 03000 200 301. Dylai ceidwaid ymgyfarwyddo â'n cyngor ar ffliw adar.
Nid yw Ffliw Adar yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â phandemig COVID-19 sy'n cael ei achosi gan feirws SARS-CoV-2 nad yw'n cael ei gario mewn dofednod ac adar caeth.
Diwedd