English icon English

Miliwn o bigiadau atgyfnerthu COVID wedi’u rhoi yng Nghymru yr hydref hwn

A million COVID autumn booster vaccines administered in Wales

Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod dros filiwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref hwn.

Mae data wythnosol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos, hyd at yr wythnos diwethaf, fod 1,023,594 o bobl bellach wedi cael eu pigiad atgyfnerthu.

Daeth cadarnhad hefyd y dylai pawb sy’n gymwys yng Nghymru nawr fod wedi cael gwahoddiad i gael eu pigiad atgyfnerthu diweddaraf. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog unrhyw un sy’n gymwys am bigiad, ond sydd heb gael gwahoddiad, i gysylltu â’i fwrdd iechyd lleol.

Mae pigiadau rhaglen frechu’r hydref eleni wedi’u cynnig i’r grwpiau blaenoriaeth canlynol:

  • unrhyw un 50 oed neu hŷn
  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i bobl hŷn
  • gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, a’u cysylltiadau cartref
  • gofalwyr rhwng 16 a 49 oed

Dechreuodd y rhaglen pigiadau atgyfnerthu ym mis Medi, ac mae’n cael ei chynnal ochr yn ochr â’r rhaglen flynyddol i frechu rhag y ffliw. Bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu imiwnedd y rhai sydd â risg uwch yn erbyn salwch difrifol ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn.

Croesawodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan lwyddiant rhaglen pigiadau atgyfnerthu’r hydref, gan ddweud:

“Bob hydref a gaeaf, wrth i’r tymheredd ostwng, mae mwy o bobl yn mynd yn sâl ac mae mwy angen gofal gan ein Gwasanaeth Iechyd. Mae COVID-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol aruthrol ar y Gwasanaeth Iechyd dros y ddwy flynedd diwethaf, ond diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen frechu, rydyn ni’n disgwyl llawer llai o achosion eleni.

“Ond nid oes gennym imiwnedd llawn yn erbyn y feirws a rhaid inni barhau i ddiogelu ein hunain. Mae COVID-19 a’r ffliw yn fygythiadau o hyd, yn enwedig i bobl hŷn a phobl sydd â chyflyrau iechyd eraill.

“Os ‘dych chi’n gymwys i gael brechiad yr hydref yma, cofiwch dderbyn y cynnig er mwyn diogelu’ch hun, eich anwyliaid a’n cymunedau.”

Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

“Mae’n bwysig cofio bod COVID-19 dal o gwmpas. Mae brechu yn bwysig o hyd i’r rhai mewn grwpiau blaenoriaeth a brechu yw ein hamddiffyniad gorau yn erbyn y feirws.

“Mae’r rhai sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn cynnwys pobl dros 50 oed, pobl â chyflwr iechyd sydd wedi’i restru neu bobl sy’n byw gyda rhywun â chyflwr o’r fath, a gofalwyr. Os ydych yn gymwys, dylech fod wedi cael gwahoddiad i gael pigiad atgyfnerthu.

“Cadwch eich apwyntiad os oes gennych un. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad, ond rydych yn credu’ch bod yn gymwys, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol neu edrychwch ar ei wefan i gael manylion apwyntiadau galw heibio.”

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth Interim y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’n addawol gweld bod gymaint o bobl wedi dod ymlaen i gael eu pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19. Byddan nhw nid yn unig yn diogelu eu hunain, ond hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu ein cymunedau. Mae’n hanfodol bod pobl yn derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu COVID-19 a’u brechiad ffliw blynyddol pan fyddan nhw’n cael eu gwahoddiad, fel y gallwn ni barhau i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn.”