English icon English

Miloedd o apwyntiadau ychwanegol yn y GIG

Thousands of additional NHS appointments

Mae 15,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn cael eu darparu ledled Cymru y mis hwn fel rhan o gynlluniau i leihau amseroedd aros hir.

Mae'r apwyntiadau ychwanegol – ar ben gweithgarwch craidd arferol y GIG – yn rhan o gynllun uchelgeisiol blwyddyn o hyd, gwerth £120 miliwn, gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir a lleihau’r rhestr aros.

Fel rhan o’r cynllun, bydd mwy na 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol yn cael eu gwneud erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysbyty Llandochau i gwrdd â rhai o'r cleifion sy'n elwa o'r cynnydd mewn triniaethau cataract.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi sicrhau bod 34% yn llai o lwybrau offthalmoleg yn aros mwy na 52 wythnos ym mis Gorffennaf 2025 o'i gymharu â mis Gorffennaf 2024.

Mae ffigurau perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod ychydig dros 8,000 o bobl ledled Cymru wedi bod yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Gorffennaf – yr ail ffigwr isaf ers mis Ebrill 2021 a mwy na 88% yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022. Mae'r GIG yn parhau i fod ar y trywydd cywir i weld gostyngiad sylweddol mewn amseroedd aros hir erbyn diwedd ail chwarter y flwyddyn.

Does neb yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, neu fwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf, ym myrddau iechyd Bae Abertawe a Phowys. Ym myrddau iechyd prifysgol Hywel Dda, Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg, a Chaerdydd a'r Fro, mae llai nag 1% o bobl yn aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth.

Roedd yr amser a dreuliodd ambiwlansys yn aros i drosglwyddo pobl i staff mewn adrannau achosion brys mewn ysbytai ym mis Awst 2025 yr ail isaf ers mis Gorffennaf 2021. A'r amser cyfartalog a dreuliodd pobl yn aros i gael eu brysbennu mewn adrannau brys oedd y cydradd orau a gofnodwyd ers mis Chwefror 2021, sef 16 munud.

Ar gyfer pobl oedd wedi dioddef ataliad y galon, ac y ceisiwyd eu hadfywio, roedd cylchrediad digymell (ROSC) wedi dychwelyd yn 27.4% o'r cleifion ar adeg cyrraedd yr ysbyty. Roedd hyn yn welliant o chwe phwynt canran o'i gymharu â mis Gorffennaf 2025. Gall cyfraddau ROSC uwch arwain at fwy o siawns o oroesi ar ôl ataliad y galon.

Mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos bod perfformiad yn erbyn y targed canser 62 diwrnod yn fwy na 60% am y chweched mis yn olynol. Ym mis Gorffennaf, dechreuodd 2,301 o bobl dderbyn triniaeth canser, y ffigwr uchaf sydd wedi'i gofnodi. Ac fe gafodd mwy na 15,780 o bobl y newyddion da nad oedd ganddynt ganser - yr ail nifer uchaf erioed.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Nod y £120 miliwn ychwanegol a gyhoeddais ym mis Mehefin yw cyflawni'r hyn y mae pobl ei eisiau – triniaeth gyflymach.

“Y mis hwn, mae 15,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn cael eu darparu ledled Cymru sy'n dangos sut rydym yn cynyddu gweithgarwch ar hyd a lled y wlad i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn gyflymach.

“Ym mis Gorffennaf, roedd ychydig dros 5,000 o atgyfeiriadau bob dydd, ar gyfartaledd, am apwyntiad claf allanol cyntaf, sef y nifer uchaf ar gofnod. Mae hyn yn dangos cymaint yw'r galw am ofal y GIG.

“Rydym yn disgwyl gweld yr ystadegau yn amrywio rhywfaint fesul mis. Rwy'n parhau i fod yn hyderus y byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol mewn amseroedd aros hir erbyn diwedd yr ail chwarter.

“Rwyf am ddiolch i weithlu'r GIG am eu hymrwymiad a'u hymdrechion parhaus i leihau amseroedd aros hir.”