Miloedd o ffermydd Cymru yn derbyn blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol.
Thousands of Welsh farms receive BPS advance payments
Heddiw (dydd Mawrth, 14 Hydref) mae mwy na £158m wedi'i dalu i fusnesau fferm yng Nghymru drwy flaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2025.
Bydd mwy na 15,500 o hawlwyr yn derbyn y blaendal BPS sy'n werth tua 70 y cant o'r amcangyfrif o werth yr hawliadau.
Bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn parhau i wneud blaendaliadau, wrth i hawliadau unigol BPS gael eu dilysu ar gyfer y blaendaliad.
Bydd gweddill taliadau BPS 2025 yn cael eu gwneud yn llawn o 12 Rhagfyr ymlaen, yn amodol ar ddilysu yr hawliad BPS yn llawn.
Rwy'n disgwyl y bydd pob hawliad BPS heblaw am y rhai mwyaf cymhleth yn cael eu dilysu'n llawn, ac y bydd taliadau'n cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2026.
Meddai Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: "Rwy'n falch fod miloedd o ffermydd ledled Cymru bellach wedi cael blaendaliadau BPS ar gyfer 2025.
Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau a theuluoedd ffermio ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau fod y taliadau llawn sy'n weddill yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl unwaith y bydd y cyfnod talu llawn yn agor ym mis Rhagfyr.
"Hon fydd y flwyddyn olaf cyn dechrau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd ym mis Ionawr 2026. Bydd yr SFS yn adeiladu ar fecanweithiau a systemau cyflawni profedig Taliadau Gwledig Cymru."