Miloedd o gynorthwywyr addysgu yn cael codiad cyflog wrth i'r cynllun gweithlu gael ei gyhoeddi
Thousands of teaching assistants set for pay rise as workforce plan published
Bydd cynorthwywyr addysgu lefel 1 yng Nghymru yn cael eu symud i rolau lefel 2 o fis Medi 2026 ymlaen.
Bydd hyn o fudd i hyd at 3,350 o gynorthwywyr addysgu sydd ar lefel 1 ar hyn o bryd, a fydd yn cael codiad cyflog o hyd at £1,350.
Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi addysgu a dysgu yn ein hysgolion a'n lleoliadau. Gan gydweithio ag awdurdodau lleol ac undebau, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi cadarnhau heddiw (18 Mawrth) y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r codiad cyflog i gynorthwywyr addysgu lefel 1 i symud i lefel 2, yn amodol ar ymgynghoriad yn lleol*. Bydd rolau cynorthwyydd addysgu yn y dyfodol hefyd yn cael eu recriwtio ar lefel dau o'r cychwyn.
Ochr yn ochr â'r codiad cyflog, bydd hyn yn sicrhau bod disgrifiadau rôl cynorthwywyr addysgu yn gyson, a fydd yn cefnogi gwell recriwtio a chadw staff.
Daw'r cyhoeddiad ar yr un diwrnod ag y cyhoeddir y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion (ADD LINK). Mae'r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth a rennir o ddatblygu proffesiwn addysg hyderus, gwydn sy'n cael ei gefnogi yn dda, gan ymateb yn uniongyrchol i adborth gan ymarferwyr, undebau, awdurdodau lleol, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a phartneriaid allweddol eraill.
Er mwyn cefnogi'r gweithlu presennol a'r gweithlu yn y dyfodol, mae'r cynllun yn nodi ystod o gamau gweithredu i Lywodraeth Cymru a phartneriaid o dan bum thema, sef -
- Sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd
- Mynd i'r afael â materion llwyth gwaith
- Ymateb i heriau newydd i weithlu'r ysgol a sicrhau mynediad at gymorth drwy weithlu arbenigol a bugeiliol
- Sicrhau bod addysgu, cefnogi addysgu ac arweinyddiaeth addysgol yn llwybrau gyrfa deniadol
- Sicrhau defnydd effeithiol o ddata a thystiolaeth i lywio'r gwaith o gynllunio'r gweithlu
Ymdrinnir â lles staff o dan bob thema ac mae'n ganolog o fewn y cynllun.
Mae'r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu llwybrau dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon, arweinwyr a chynorthwywyr addysgu gan weithio'n agos gyda Dysgu. Bydd y cymhellion addysg gychwynnol athrawon a'r llwybrau i addysgu hefyd yn cael eu hadolygu i gefnogi recriwtio athrawon y dyfodol.
Ceir ymrwymiad hefyd i ddeall modelau amgen ar gyfer cefnogi athrawon gydag amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth, ac i gefnogi'r defnydd priodol o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn dysgu ac i leihau llwyth gwaith.
Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod heriau newydd y mae gweithlu'r ysgolion yn eu hwynebu wrth gefnogi dysgwyr y tu allan i'w dyletswyddau addysgu o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys cryfhau cydweithredu aml-asiantaeth i gefnogi'r gweithlu ysgolion i ymateb i newidiadau cymdeithasol ehangach. Yn ogystal, mae'n ymrwymo i fuddsoddi a chefnogi rolau bugeiliol nad ydynt yn rolau addysgu, gan gynnwys Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a gwaith Rheolwyr Ysgolion Bro.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae heddiw yn garreg filltir i addysg gyda'r cynllun hwn yn amlinellu ymrwymiadau allweddol a fydd o fudd i'r sector mewn sawl ffordd yn y tymor byr a'r tymor hir.
"Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â'r sector a bydd yn cefnogi ein harweinwyr, athrawon a staff cymorth nawr ac yn y dyfodol. Bydd yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion dysgwyr, gyda chymorth lles i'r staff wrth wraidd y cynllun.
"Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi'r cynnydd ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel 1 heddiw. Dyma'r cam cyntaf tuag at y nod hirdymor o fynd ar drywydd cyflog ac amodau tecach i bob cynorthwyydd addysgu."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, llefarydd CLlLC dros addysg:"Cynorthwywyr addysgu yw calon ein hysgolion, yn meithrin perthynas ddibynadwy gyda disgyblion ac yn darparu'r gefnogaeth o ddydd i ddydd sy'n helpu plant i deimlo'n hyderus ac yn barod i ddysgu. Rydym yn croesawu'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o symud o rolau Lefel 1 i rolau Lefel 2, mewn cydnabyddiaeth o'r cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud. Mae'n hanfodol bod hyn yn cyd-fynd â'r gwaith parhaus i sicrhau amodau teg a chyson ar draws y gweithlu cyfan, fel bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael y gefnogaeth briodol yn y rôl sydd ganddynt ym mywydau plant."
Nodiadau i olygyddion
*Local Authorities will now consult with their staff on the teaching assistant changes, in line with terms and conditions.
Embargoed copies of the Strategic Education Workforce Plan for Schools are available on request, by emailing educationpressoffice@gov.wales the report will also be available here tomorrow