English icon English

Miloedd o swyddi gwyrdd i Gymru wrth i brosiectau ynni adnewyddadwy gael cefnogaeth

Thousands of green jobs for Wales as renewable energy projects get record backing

Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi croesawu cefnogaeth i 20 o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr—sy’n gyfanswm o fwy na 530 MW—yng Nghymru, a allai arwain at greu miloedd o swyddi gwyrdd.

Dyma’r nifer mwyaf erioed o brosiectau Cymru i dderbyn cefnogaeth yn arwerthiant Contracts for Difference Llywodraeth y DU.

Yn y rownd ddiweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, derbyniodd pump o brosiectau gwynt ar y tir, 12 prosiect solar a thri phrosiect ynni llanw warant gontractiol ar bris yr ynni maent yn ei gynhyrchu, sy’n galluogi i waith ddechrau ar y prosiectau hyn. Sicrhaodd Cymru 99.65% o’r holl gyllid ar gyfer ynni llanw.

Yn ogystal â chynhyrchu miloedd o swyddi, bydd hyn yn creu cyfleoedd economaidd i gwmnïau Cymreig eraill ac yn helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Rwy’n hynod falch bod y prosiectau hyn wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd arwerthiant ddiweddaraf. Yn ogystal â chyflawni targedau hanfodol i leihau carbon, mae ynni gwynt ar y tir ac ynni llanw yn dod â buddion economaidd sylweddol a swyddi o ansawdd uchel i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd.”

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw eglurder a sicrwydd i ddatblygwyr, a dyna pam yr ydym yn gweithio’n galed i gyflymu’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Mae ein deddfwriaeth newydd a’n buddsoddiad mewn adeiladu capasiti eisoes yn gwneud gwahaniaeth.”

Nodiadau i olygyddion

Projects in Wales that got allocated contracts are 

Project Name

Technology

Capacity (MW)

Energyfarm UK Pencarreg LLP

Onshore Wind (>5 MW)

5.01

Mynydd Carn-Y-Cefn Wind Farm

Onshore Wind (>5 MW)

34.00

Mynydd Fforch Dwm

Onshore Wind (>5 MW)

26.80

Twyn Hywel Energy Park Ltd

Onshore Wind (>5 MW)

93.80

Upper Ogmore Wind Farm

Onshore Wind (>5 MW)

25.80

Aberthaw East

Solar PV (>5 MW)

20.00

Cwm Ifor Solar Farm

Solar PV (>5 MW)

15.00

CYP25

Solar PV (>5 MW)

15.00

Gwenlais Solar Ltd

Solar PV (>5 MW)

16.26

Oaklands Solar Farm

Solar PV (>5 MW)

49.99

Parc Caenewydd PV & BESS

Solar PV (>5 MW)

44.00

Parc Dyffryn

Solar PV (>5 MW)

49.95

Pembrokeshire Solar Park

Solar PV (>5 MW)

9.90

Pen Onn Farm Solar

Solar PV (>5 MW)

49.90

Rhigos Solar Ltd

Solar PV (>5 MW)

7.60

Talgren Solar Ltd

Solar PV (>5 MW)

7.23

Wallace Wood Solar Farm Ltd

Solar PV (>5 MW)

42.00

Mor Energy GO3 Phase2

Tidal Stream

5.50

Morlais Tidal Tech GR1 W1.1

Tidal Stream

3.00

Ynni’r Lleuad 3

Tidal Stream

10.00

Technology

Total Capacity for Wales (MW)

Onshore Wind

185.41

Solar PV

326.83

Tidal Stream

18.50