Mwy na 200,000 o alwadau i wasanaeth iechyd meddwl brys
More than 200,000 calls to urgent mental health service
Mae'r gwasanaeth cenedlaethol 111, pwyso 2, sydd wedi trawsnewid mynediad at gymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl brys, wedi derbyn mwy na 200,000 o alwadau ers ei lansio.
Cyflwynwyd y gwasanaeth ledled y wlad ym mis Rhagfyr 2022, ac mae'n darparu cymorth ar unwaith i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl.
Mae wedi ymdrin â 200,900 o alwadau hyd yn hyn. Dyma'r rhagflaenydd ar gyfer cenhedlaeth newydd o wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored, a fydd yn cael eu datblygu ledled Cymru, gan ddarparu mynediad i bobl at gymorth pryd a lle mae ei angen arnynt.
Mae heddiw (10 Hydref) yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac mae'r thema eleni yn rhoi sylw i fynediad at wasanaethau yn ystod trychinebau ac argyfyngau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Mae'r lefelau uchel o alw am y gwasanaeth 111, pwyso 2 yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd pobl ei angen fwyaf.
"Mae cael y gwasanaeth hwn ar gael ddydd a nos, bob dydd o'r flwyddyn, yn dangos pa mor bwysig yw cymorth iechyd meddwl ar unwaith i'n cymunedau.
"Mae angen i wasanaethau fel y rhain fod ar gael cyn gynted â phosibl, gan eu bod yn gallu helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag dirywio a gwaethygu.
"Mae'n rhan o'n huchelgais i Gymru fod y genedl gyntaf i ddatblygu cymorth iechyd meddwl yr un diwrnod, yn seiliedig ar ddull gweithredu fesul cam."
Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 am ddim, sydd ar gael 24 awr y dydd yn cysylltu galwyr yn uniongyrchol â gweithwyr iechyd meddwl yn eu hardal ac yn cynnig cymorth yr un diwrnod heb atgyfeiriad.
Mae'r rhan fwyaf o alwadau yn cael eu gwneud ar ddyddiau Llun a Mawrth, ac mae'r galw mwyaf yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr.
Pobl rhwng 25 a 34 oed yw'r grwpiau oedran mwyaf cyffredin i ddefnyddio'r gwasanaeth, ac yna pobl 35 i 44 oed a 45 i 54 oed.
Dywedodd Ciara Rogers, cyfarwyddwr y rhaglen genedlaethol ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru: "Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 yn chwarae rhan allweddol o ran ymyrryd yn gynnar ac atal. Mae'n rhan hanfodol o wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.
"Rydyn ni eisiau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru gael eu harwain at y cymorth cywir, y tro cyntaf, heb oedi. Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 yn enghraifft wych o'r hyn rydyn ni'n awyddus i'w gyflawni wrth ganolbwyntio ar gymorth mynediad agored, yr un diwrnod."
Nodiadau i olygyddion
Further data about calls to NHS 111 Wales Press 2 can be found here: NHS 111 Wales Press 2: Mental Health Support - NHS Wales Joint Commissioning Committee
- NHS Wales 111 press 2 launched in December 2022
- Latest data shows more than 30,000 contacts were made on Mondays and Tuesdays
- The service operates 365 days a year, 24 hours a day
- World Mental Health Day takes place on 10 October