English icon English

Mwy na £2filiwn ar gyfer cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol ar draws Cymru

More than £2million for natural flood management schemes across Wales

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) ar draws Cymru gyda mwy na £2filiwn o gyllid grant.

Bydd y cronfeydd yn helpu Awdurdodau Rheoli Risg – megis awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru – i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd wrth i risgiau llifogydd ddwysáu, drwy ddefnyddio dulliau naturiol.

Mae NFM yn defnyddio technegau megis plannu coed, argaeau sy’n gollwng dŵr, morfeydd heli ac adfer twyni, ailgyflwyno doleniadau a gorlifdiroedd naturiol i leihau neu arafu cyfradd y dŵr ffo i afonydd a dal dŵr yn ôl lle y gellir gwneud hynny’n ddiogel neu leihau effaith llifogydd o’r môr a difrod yn sgil stormydd ar hyd yr arfordir.

Yn ogystal â helpu i reoli risgiau llifogydd i eiddo, gall NFM hefyd helpu i hyrwyddo bioamrywiaeth ehangach, ansawdd dŵr a gwella amwynderau, yn ogystal â manteision dysgu ar gyfer y cyhoedd ac awdurdodau rheoli risg.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn gwahoddiad i awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau o’r fath ym mis Ebrill.

Mae’r deg prosiect NFM cyntaf wedi’u cymeradwyo, ac mae pob un ohonynt wedi cael 100% o’r cyllid grant dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd mwy na £2filiwn yn cael ei ddarparu i gynlluniau ar draws Cymru.

Mae un cynllun o’r fath wedi’i gynllunio ar gyfer pentref Dwyran, Ynys Môn, a fydd yn lleihau dŵr ffo, storfeydd dŵr a lleihau’r risg llifogydd i eiddo cyfagos sydd â hanes o lifogydd.

Bydd pyllau a doleniadau ychwanegol yn y nant yn creu cynefinoedd newydd ar hen gae ysgol a chreu man gwyrdd newydd er lles y gymuned.

Hefyd wedi’i gynllunio yw prosiect Castell-nedd Port Talbot ym Mrynau a Phreswylfa a fydd yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad Coed Cadw i blannu coetir cynhenid newydd ar safleoedd ym Mharc Gwledig y Gnoll.

Nod y prosiect fydd lleihau’r risgiau llifogydd i Gastell-nedd a chymunedau o amgylch drwy ddal dŵr yn y ddalfa uwch a lleihau llifau mawr yn ystod stormydd, gan fod o fudd i 250 o gartrefi a mwy na 150 o fusnesau.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Hoffwn ddiolch i’n Hawdurdodau Rheoli Risg sydd wedi ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i’r gwahoddiad am geisiadau a chyhoeddais ym mis Ebrill.

“Rwy’n falch o weld bod y cynlluniau hynny sydd wedi dod i law wedi’u cymeradwyo erbyn hyn.

“Mae rhaglen NFM yn un gwelliant o lawer a gyflwynais yn y gwanwyn i gefnogi Awdurdodau Rheoli Risg i leihau risgiau llifogydd ac i ysgogi cynlluniau a fydd yn helpu i amddiffyn cartrefi a gwella cadernid yn erbyn risgiau cynyddol newid yn yr hinsawdd.

“Mae NFM yn rhan allweddol o’n dull uchelgeisiol o atal llifogydd i gymunedau fel y nodwyd yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a osodwyd gerbron y Senedd yr wythnos ddiwethaf.”

Fel rhan o raglen NFM, bydd Awdurdodau Rheoli Risg yn dod ynghyd i fonitro gwaith parhaus ac arferion gorau, gan ganiatáu i’r rheini sy’n gwneud y gwaith i ddarganfod yr  hyn sy’n gweithio’n dda mewn amgylcheddau gwahanol, ac i annog defnyddio mwy o gynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn y dyfodol.