English icon English

Mwy o bobl yn dod yn berchnogion tai am y tro cyntaf oherwydd gynllun peilot ail gartrefi arloesol

More people becoming homeowners for the first time thanks to groundbreaking second homes pilot

Cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei pheilot ail gartrefi a fforddiadwyedd arloesol yn Nwyfor, dim ond un Prynu Cartref wedi'i gwblhau yn yr ardal mewn pum mlynedd.

Mae Prynu Cartref yn gynllun a grëwyd i helpu pobl na allent fforddio prynu eiddo ac mae o fudd arbennig mewn cymunedau mwy gwledig lle mae’n bosibl nad oes llawer o gyfleoedd i brynu cartref.

Ers cyflwyno'r cynllun peilot, mae 25 o geisiadau eisoes wedi'u cymeradwyo, sy'n golygu bod mwy o bobl yn gallu byw a gweithio'n lleol yn eu cymunedau eu hunain.

Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot Dwyfor fel rhan o ystod o fesurau  i fynd i’r afael â materion a achosir gan berchentyaeth ail gartrefi.

Dewiswyd yr ardal yng Ngwynedd fel yr ardal beilot ar sail ei maint daearyddol, y crynhoad o ail gartrefi yng nghymunedau'r ardal a'r materion sy'n wynebu'r Gymraeg.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: "Mae cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor yn parhau i gynnig cyfle gwirioneddol i asesu ystod o ymyriadau radical sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol ffyniannus lle gall pobl fforddio byw a gweithio ynddynt.  

"Mewn cymuned mor fach a chydag anghenion arbennig Dwyfor, mae hyn yn llwyddiant gwirioneddol ac rwy'n diolch i swyddogion Tai Teg, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru am eu camau rhagweithiol."

Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, oedd yr awdurdod cynllunio lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu cyfarwyddyd cynllunio Erthygl 4 o Fedi 2024.

Mae hyn yn golygu y gallai fod angen caniatâd cynllunio cyn newid y defnydd o eiddo preswyl cynradd i ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu eiddo defnydd cymysg penodol.  

Mae mwy o awdurdodau lleol hefyd wedi penderfynu defnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt i godi premiymau y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

O fis Ebrill 2025, mae 21 o'r awdurdodau lleol wedi nodi y byddant yn codi premiwm ar naill ai ail gartrefi neu eiddo gwag hirdymor neu'r ddau.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r premiymau treth gyngor i helpu i ddatblygu atebion tai fforddiadwy.

Mae ymyriadau sy'n cael eu profi yn Nwyfor, fel y cyfarwyddiadau cynllunio arloesol, ar gael i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru. Gall pob awdurdod lleol ddefnyddio premiymau y dreth gyngor.

DIWEDD