Mwy o gymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol
Face to face support increases for victims and survivors of domestic abuse and sexual violence
Wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Yn ystod y pandemig Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer cymorth VAWDASV mewn gwahanol ffyrdd i ddiwallu anghenion cyfnewidiol:
- £1.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer llety cymunedol y telir amdano er mwyn galluogi pobl i symud ymlaen, a gostwng y galw ar lochesi
- £0.25 miliwn o refeniw, wedi’i ailgyfeirio i ddiwallu anghenion uniongyrchol Covid-19
Mae £1.575 miliwn arall o refeniw, a gyhoeddwyd fis Mehefin, yn cael ei flaenoriaethu i helpu darparwyr gwasanaethau i baratoi ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn y galw wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, ac yn arbennig er mwyn galluogi gwasanaethau wyneb yn wyneb i ailgychwyn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Mae Covid-19 a’r newidiadau i’n bywydau bob dydd wedi cynyddu’r risg o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, a’i ddifrifoldeb. Mae pobl sy’n cyflawni camdriniaeth ddomestig wedi manteisio ar y cyfyngiadau ar symud i reoli mwy fyth, gan atal y dioddefwyr a’r goroeswyr rhag cael preifatrwydd a chyfle i gyrraedd at wasanaethau cymorth a chefnogaeth.
“Gwelodd llinell gymorth Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru ostyngiad yn nifer y galwadau yn gynharach eleni, a oedd yn achos pryder, ond gwelwyd cynnydd yn y dulliau cyswllt tawel, ac roedd nifer y sgyrsiau a’r e-byst a anfonwyd at y llinell gymorth yn parhau i fod yn uchel.
“Wrth i’r cyfyngiadau ar symud gael eu llacio, ac wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf, bydd dioddefwyr a goroeswyr yn cael mwy o gyfle i ymddiried mewn ffrindiau, aelodau’r teulu a gweithwyr proffesiynol, a gofyn am y cymorth sydd ei angen. Mae’r galwadau i’r llinell gymorth yn amlygu anghenion cynyddol gymhleth a lefelau uwch o risg.
“Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid a darparwyr arbenigol i helpu gwasanaethau i ailgychwyn gweithio wyneb yn wyneb mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio sgriniau tisian, cyfarpar diogelu personol a mesurau cadw pellter cymdeithasol.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais, neu sy’n pryderu am berthynas, ffrind neu gymydog, i gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn – dros y ffôn, e-bost, neges destun neu sgwrsio byw. Mae cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys cymorth tawel, ar gael 24 awr y dydd. Dydych chi ddim wrth eich hunain, ac mae’r cymorth wyneb yn wyneb yn ailgychwyn.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru, Sara Kirkpatrick:
“Mae Cymorth i Ferched Cymru yn hynod o falch y bydd y refeniw yma gan Lywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau arbenigol i ailgychwyn y cymorth wyneb yn wyneb sydd ei angen yn ddirfawr ar oroeswyr.
“Mae’r pandemig Covid-19 wedi newid nifer o’r dulliau a ddefnyddir gan wasanaethau i gynnig cymorth allai drawsnewid bywydau'r goroeswyr, os nad eu hachub. Mae eu cadernid a’u gallu i addasu drwy gydol y pandemig wedi bod yn anhygoel, ond mae methu darparu cymorth wyneb yn wyneb i’r rhai mewn angen wedi creu rhai pryderon ymysg staff, a rhai goroeswyr sydd wedi wynebu rhwystrau ymarferol ac emosiynol.
“Yn anffodus, rydym yn gwybod o ddata llinell gymorth Byw Heb Ofn bod cyfraddau trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol wedi codi yn ystod y pandemig, ond roedd natur y mesurau cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau ar symud yn golygu, ar gyfer nifer o’r goroeswyr, bod y mynediad at gymorth a diogelwch yn gyfyngedig.
“Wrth i’r cyfyngiadau hyn gael eu codi, rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y goroeswyr sy’n estyn allan am gymorth ac arweiniad. Rydyn ni’n cael ein sicrhau y bydd mwy o’r goroeswyr hyn yn gallu cael cymorth wyneb yn wyneb pan fydd hynny’n ddiogel ac yn briodol, diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.”
Dywedodd Fflur Emlyn, o Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru:
“Diolch i’r dyfarniad cyfalaf diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi medru ailgychwyn gweithio wyneb yn wyneb gyda phlant ac oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn y gogledd.
“O ganlyniad i’r pandemig Covid-19, gohiriwyd bob gwasanaeth wyneb yn wyneb a bu’n rhaid parhau’n ddigidol. Ond bu’n rhaid i’n gwaith therapiwtig gyda phlant dan 11 oed ddod i ben wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, gan nad oedd yn ymarferol parhau.
“Mae’r cyllid hwn wedi cyfrannu at gyfarpar diogelu personol a’n helpu i ailgychwyn ein holl wasanaethau i oedolion a phlant sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn y gogledd, gan gynnwys ein gwaith gyda’n cleientiaid ifanc iawn.”