Mwynhau Cymru – yn ddiogel
Enjoy Wales safely
Ar drothwy’r penwythnos cyntaf ers i leoliadau lletygarwch dan do ailagor a chan fod disgwyl i’r tywydd fod yn braf mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn awyddus i atgoffa trigolion ac ymwelwyr i fwynhau’r hyn y gall Cymru ei gynnig – ond mewn modd diogel
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Gan ein bod yng nghanol tymor yr haf a chan fod busnesau lletygarwch yn gallu ailagor bydd llawer o bobl yn manteisio ar y tywydd da, gan ymweld â Chymru neu grwydro eu hardaloedd lleol. Bydd llawer o bobl yn croesawu hyn yn sgil y ffaith bod y diwydiant twristiaeth wedi wynebu cyfnod mor anodd.
“Os ydych yn bwriadu crwydro y penwythnos hwn, gan fwynhau’r hyn y gall Cymru ei gynnig, cofiwch wneud hyn mewn modd diogel. Gallwn oll gymryd rhai camau er mwyn cadw ein hunain, ein teuluoedd a’n cymunedau yn ddiogel.
“Cofiwch gynllunio ymlaen llaw a sicrhau eich bod yn deall y trefniadau lleol er enghraifft y cyfleusterau parcio. Os bydd y lleoliad yn brysur iawn beth am ystyried lleoliad arall sy’n llai prysur – mae digon o ddewis. Gallech ddarganfod rhywbeth neu rywle cwbl newydd!
“Cofiwch gadw pellter cymdeithasol, ac aros ddwy fetr i ffwrdd o bobl eraill, hyd yn oed pan fyddwch yn yr awyr agored ac ar y stryd.
“Rwy’n falch iawn fod y rhan fwyaf o fusnesau twristiaeth bellach ar agor a gallwn oll gyfrannu at yr ymdrech i gadw pawb yn ddiogel a sicrhau y gall ein bwytai, ein tafarndai, ein caffis a’n hatyniadau aros ar agor.
“Gallwn oll fwynhau cefn gwlad ac atyniadau arbennig Cymru yr haf hwn. Rhaid sicrhau, fodd bynnag, ein bod yn gwneud hyn mewn modd diogel.”
Mae Croeso Cymru yn annog ymwelwyr i ymrwymo i ofalu am ei gilydd a’n gwlad. Ewch i https://www.croeso.cymru/cy i lofnodi’r addewid