English icon English

Mwynhewch lwybr syfrdanol arfordir Cymru gydag ymgyrch Trafnidiaeth Cymru 'O'r Cledrau i'r Llwybrau'

Explore Wales’ breathtaking coastal path with TfW’s ‘Rail to Trail’ campaign

Am ddianc am ychydig o awyr lân dros benwythnos gŵyl y banc? Beth am ddal trên a chychwyn am un o leoliadau arfordirol enwog Cymru, a mynd am dro neu daith feicio a mwynhau golygfeydd godidog ein gwlad?

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn cynnal ei ymgyrch 'O'r Cledrau i'r Llwybrau' ers 2022 – cafodd ei sefydlu yn wreiddiol i ddathlu dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y ffordd y gellir cyrraedd gwahanol rannau o lwybr yr arfordir yn hawdd o wahanol orsafoedd trenau ar Rwydwaith Cymru a'r Gororau, o'r Fflint yn y Gogledd i Ddinbych-y-pysgod yn y Gorllewin.

Mae Llwybr Arfordir Cymru bellach yn enwog ledled y byd, ac mae'n cynnig cyfle unigryw i gerddwyr gerdded perimedr cyfan Cymru, gan fwynhau tirwedd unigryw a syfrdanol Cymru.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth am y 1,000 milltir o lwybrau cerdded ledled Cymru, a'r gorsafoedd rheilffordd hygyrch gerllaw, mae gwefan 'O'r Cledrau i'r Llwybrau' yn eich galluogi i gynllunio eich taith ar y trên a'ch rhaglen gerdded i gyd-fynd â'ch anghenion unigol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Nid yw pobl bob amser yn ymwybodol bod llawer o'n gorsafoedd rheilffordd yn gweithredu fel pyrth cyfleus i lwybrau cenedlaethol enwog a llwybrau cerdded yng Nghymru. Mae hon yn ymgyrch wych sy'n hyrwyddo ein rhwydwaith rheilffyrdd fel ffordd o gael mynediad i'n llwybr arfordirol anhygoel, felly beth am adael eich car gartref, nôl eich bŵts cerdded a'ch bag cefn, dal trên a mynd allan i archwilio."

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddolen ganlynol: O'r Cledrau i'r Llwybrau | Trafnidiaeth Cymru