Neges Blwyddyn Newydd 2025 gan y Prif Weinidog Eluned Morgan
First Minister's New Year Message 2025
Linc i'r fideo:
241231 FM New Year Message for 2025 – Dropbox
Sgript:
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Gobeithio bod chi wedi mwynhau Nadolig llawen a heddychlon.
Wrth i'r flwyddyn ddod i ben, ni’n gallu edrych ymlaen at 2025.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni'n cario mlan i ganolbwyntio ar y pethau chi di deud sydd fwyaf pwysig i chi.
Roedd mwy o help i'n gwasanaeth iechyd ar dop eich rhestr. Felly rydym yn gwella ein trefniadau gofal iechyd er mwyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gynt a’u gweld nhw yn gyflymach, drwy leihau’r amseroedd aros.
Ni eisiau sicrhau mai Cymru yw'r wlad lle mae swyddi a thwf gwyrdd yn tyfu gyflymaf.
Rydym yn buddsoddi mewn mwy o brosiectau ynni cymunedol ac yn trawsnewid ein proses gynllunio i ddelifro prosiectau ynni gwyrdd yn gyflym iawn.
Mae cysylltu ein cymunedau yn hanfodol.
Felly ni’n parhau i ddod â threnau newydd ar y traciau a gwella ein system trafnidiaeth. Byddwn yn dod â bysiau nôl o dan reolaeth leol ac yn rhoi dewis lleol i chi ar ugain milltir yr awr.
A byddwn ni hefyd yn parhau i greu cyfleoedd i bob teulu yng Nghymru.
Ni’n buddsoddi lot i ddarparu tai mwy fforddiadwy, gwella ein hysgolion a'n colegau, a chefnogi ein dysgwyr i gael gyrfa lwyddiannus.
Tu allan i Gymru, dwi’n gobeithio y bydd eleni yn dod â diwedd ar y gwrthdaro a'r trais ofnadwy sydd wedi ein dychryn ni i gyd.
Mae dwy fil a dau ddeg pump yn ddechrau newydd i bob un ohonom.
Mae llawer i fod yn obeithiol amdano. Gallwn gyflawni cymaint drwy weithio gyda'n gilydd.
Diolch yn fawr a blwyddyn newydd dda.
DIWEDD