English icon English
FM NYE Message-2

Neges Blwyddyn Newydd Prif Weinidog Cymru 2024

First Minister of Wales' New Year message 2024

Yn ei neges Blwyddyn Newydd mae'r Prif Weinidog yn dweud: 

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. 

Gobeithio i chi gael Nadolig hapus a heddychlon. 

Ar ddiwedd blwyddyn arall, ac ar drothwy Dwy Fil a Dau Ddeg Pedwar, mae’n naturiol meddwl am y dyfodol. 

Dyma’r amser i wneud cynlluniau am y flwyddyn. 

Addunedau blwyddyn newydd. 

A meddwl am y newidiadau sydd i ddod. 

Wrth gwrs, bydd y flwyddyn hon yn dod â newid personol mi. Hon fydd fy neges Blwyddyn Newydd olaf i fel Prif Weinidog Cymru. 

Ond, tan hynny, byddaf yn canolbwyntio ar y job sydd gen i, ac yn delifro ar fy addewidion i chi. 

Ar droad y flwyddyn, ein gobaith yw gweld diwedd ar y rhyfela erchyll a’r trais ofnadwy a welsom eleni a’r llynedd, yn enwedig yn Wcráin. 

A rhaid i’r ymladd stopio yn y Dwyrain Canol. Rhaid i ni weithio’n galetach i ffeindio llwybr at heddwch parhaol sy’n rhoi tegwch i bobl Palesteina ac Israel. 

Mae dydd Calan bob amser yn cynnig dechrau newydd, a dwi’n siwr bod gan bawb ei obeithion ei hun am y flwyddyn hon. 

Ond dwi’n siŵr hefyd bod pob un ohonom yn gobeithio am heddwch ac amseroedd gwell yn Nwy Fil a Dau Ddeg Pedwar.  

Nodiadau i olygyddion

Broadcast quality video of the message in Welsh and English available here:

FM New Year message 2023 - Dropbox