English icon English

Neges Dydd Gŵyl Dewi – Y Pethau Bychan

St David’s Day message – Y Pethau Bychan

https://we.tl/t-sO1m29ibDy

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Heddiw ni’n dathlu popeth sy'n wych am Gymru.

Rydym yn genedl falch.

Ni’n genedl hyderus – Rydym yn arwain y ffordd mewn technolegau digidol a seiber ddiogelwch, y celfyddydau creadigol, ac yn y ras tuag at ddyfodol diwastraff.

Ac rydym yn groesawgar - Mae gennym hanes balch o groesawu pobl o bedwar ban byd i fyw, astudio a gweithio yma.

Cannoedd o flynyddoedd yn ol, siaradodd Dewi Sant am dosturi a chariad.

Heddiw, rwyf yn gweld hyn bob dydd yn y bobl dwi’n cwrdd â ledled Cymru.

Yn ystod y pythefnos diwethaf, rwyf wedi cwrdd â phobl ledled Cymru sydd wedi eu heffeithio gan y stormydd a’r llifogydd diweddar.

Rwyf wedi fy nharo gan garedigrwydd y cymunedau yma.

Er straeon y ddinistr, mae straeon am arwyr.

Dyma galon Cymru.

Dywedodd Dewi Sant gwnewch y pethau bychan - Mae'r neges hon yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd ganrifoedd yn ôl.

Mewn byd a all deimlo'n ansicr weithiau - y gweithredoedd bach o garedigrwydd sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Dewch i wneud hyn yn galon i’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Dewch i ni wneud y pethau bach a lledaenu caredigrwydd.

Lle bynnag chi'n dathlu heddiw - hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a'ch teuluoedd.