English icon English

Neges Prif Weinidog Cymru i bobl Cymru [dolen i lawrlwytho'r fideo isod]

First Minister of Wales' message to the people of Wales [includes link to download]

Heno, mae'r Prif Weinidog wedi nodi'r newidiadau man i'r rheoliadau cloi yn Lloegr dros y tair wythnos nesaf.

Cyhoeddais i  y newidiadau cymedrol i'r rheoliadau aros gartref yng Nghymru ddydd Gwener. Bydd y rhain yn dod i rym brynhawn yfory.

Yma yng Nghymru, byddwn yn newid y rheoliadau fel y gall pobl ymarfer corff yn amlach, a chaniatáu i ganolfannau garddio agor, os gallant gydymffurfio â phellter cymdeithasol.

Nid yw ein cyngor wedi newid yng Nghymru.

  • Os y gallwch, dylech aros gartref.
  • Os oes angen i chi adael y cartref i weithio, ymarfer corff neu siopa, dylech aros yn lleol ac aros yn wyliadwrus.
  • Nid yw coronafirws wedi diflannu
  • Bydd y ffordd yr ydym yn ymddwyn dros yr wythnosau i ddod yn parhau i gael effaith ddwys ar ein Gwasanaeth Iechyd a'n gallu i achub bywydau.
  • Os ydych yn mentro allan, arhoswch yn lleol ac arhoswch yn ddiogel.

Fe nododd y Prif Weinidog hefyd ei gynllun ar gyfer y dyfodol.

Mae’n un cynnar gan ei fod yn dibynnu ar sut mae'r firws yn ymddwyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Bythefnos yn ôl, cyhoeddais fframwaith i arwain Cymru allan o'r pandemig.

Mae hyn wedi ein helpu i benderfynu na fydd ysgolion yn dychwelyd i normal ar 1 Mehefin.

Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau sy'n iawn i Gymru,

gan ddefnyddio gwybodaeth a chyngor arbenigol ar sut mae coronafirws yn lledaenu yma i'n cadw ni'n ddiogel.

Iechyd y cyhoedd syn dod gyntaf.

Bydd yn llywio ein penderfyniadau a byddwn yn parhau i'ch hysbysu wrth i ni gynllunio ar gyfer ein dyfodol yn yr wythnosau i ddod.

Diolch am eich holl gymorth a chefnogaeth. Gyda'n gilydd gallwn wneud hyn.