English icon English
KW visit-2

Newidiadau i gymwysterau wedi’u cadarnhau gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn dilyn tarfu pellach ar ddysgu

Changes to qualifications confirmed by Education Minister Kirsty Williams following further disruption to learning

Bydd dysgwyr yng Nghymru sy'n astudio ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sy’n cael eu cymeradwyo gan sefydliad Cymwysterau Cymru eleni yn derbyn graddau a bennir gan eu hysgol neu eu coleg, yn seiliedig ar waith maent wedi'i gwblhau yn ystod eu cwrs.

Cadarnhawyd y penderfyniad polisi hwn gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw (dydd Mercher, Ionawr 20) yn dilyn tarfu pellach ar ddysgu wyneb yn wyneb sy’n cael ei achosi gan bandemig y coronafeirws.

Roedd y cyhoeddiad yn dilyn argymhellion gan y Grŵp cynghori dylunio a chyflwyno sy'n cynnwys penaethiaid ac arweinwyr colegau.

Sefydlwyd y grŵp ym mis Rhagfyr gan y Gweinidog i ‘gefnogi llesiant, tegwch a chynnydd’ i ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau eleni.

Wrth siarad mewn fideo a ryddhawyd ar ei sianel Twitter, dywedodd y Gweinidog: "Mae'r sefyllfa sy'n gwaethygu gyda'r pandemig wedi golygu nad oes gennym ni ddewis ond ailedrych ar ein dull o sicrhau llesiant a hyder y cyhoedd yn ein system gymwysterau.

"Mae'r cynigion rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn ymddiried yng ngwybodaeth athrawon a darlithwyr am waith eu dysgwyr, yn ogystal â'u hymrwymiad i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael i gefnogi cynnydd dysgwyr.    

"Mae addysgu cynnwys craidd ac agweddau pob cwrs yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad, felly maent yn cael eu cefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'w camau nesaf, gyda hyder yn eu graddau.

"Rydym yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i edrych ar sut gallwn gefnogi dysgwyr drwy'r cyfnod pontio hwn, a gallwn ddarparu pont i gyrsiau prifysgol.

"Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am eu hyblygrwydd parhaus a’u parodrwydd i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa hynod anodd hon. Mae eu hymrwymiad parhaus yn wyneb adfyd i’w edmygu a hefyd eu cyfraniad unigol ac ar y cyd at yr ymdrech genedlaethol yn erbyn Covid-19."