English icon English

Newidiadau i’r polisi ar orchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau

Changes to face coverings policy in schools and colleges

Bydd disgwyl i ddisgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man y tu allan i’r ystafell dosbarth ac ar gludiant i’r ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau gweithredol ar y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

Mae’r canllawiau bellach yn nodi y dylai’r canlynol wisgo gorchuddion wyneb:

  • staff a dysgwyr ysgolion uwchradd a cholegau ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth
  • ddysgwyr blwyddyn 7 ac i fyny ar gludiant penodedig i’r ysgol neu goleg
  • ymwelwyr i bob ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n gollwng ac yn casglu eu plant

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi tystiolaeth SAGE ac adroddiad diweddar gan y Grŵp Cyngor Technegol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae’n hanfodol i bobl ifanc, rhieni, oedolion a’r gweithlu deimlo’n hyderus bod pob cam yn cael ei gymryd i sicrhau bod pob lleoliad addysg mor ddiogel â phosibl.

“Rydyn ni wedi dweud yn glir y byddwn ni’n adolygu pob polisi yn gyson, ac yn parhau i ddilyn cyngor gwyddonol. Mae’r polisi sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn gwneud hynny.

“Mae’r canllawiau newydd yn syml i’w dilyn, yn haws eu gweinyddu ac yn sicrhau bod polisi cyson ar draws Cymru. Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi £2.3m i helpu i brynu gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

“Cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yw’r mesurau pwysicaf i bobl Cymru o hyd. Gall gwisgo gorchuddion wyneb ategu’r mesurau hyn, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein hunain ac eraill.

“Mae gan bawb yng Nghymru ran bwysig i’w chwarae yn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a diogelu ein gilydd. Mae hyn yn cynnwys cadw draw o gartrefi ein gilydd, ac eithrio dan amgylchiadau cyfyngedig iawn, cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw, cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn rheolaidd”.

“Byddwn yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i helpu i bwysleisio wrth y disgyblion, rhieni a staff ei bod yn hanfodol cymryd cyfrifoldeb i helpu i arbed bywydau a diogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

Mae polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ystafelloedd dosbarth yn parhau'r un fath.

Mewn ystafelloedd dosbarth lle mae grwpiau cyswllt yn bodoli a mesurau rheoli eraill yn eu lle, rhaid cydbwyso’r manteision ymylol posibl o ddefnyddio gorchuddion wyneb yn erbyn yr effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clyw a chyfathrebu cymdeithasol.

Atal y feirws rhag lledaenu yw prif nod yr holl fesurau rheoli ac mae’r profiadau hyd yma yn awgrymu bod y mesurau atal wedi’u deall a’u gweithredu’n eang ar draws ein hysgolion a’n colegau.

Mae’r canllawiau diwygiedig i’w gweld yma: https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19