English icon English
2020-08-24 Keep Wales Safe Photos - face coverings - WG KWS2 0056-2

Ap COVID-19 y GIG bellach yn cydweddu ag apiau eraill ar draws y DU gyfan, Jersey a Gibraltar

NHS COVID-19 app now compatible across whole of UK, Jersey and Gibraltar

O heddiw ymlaen [dydd Iau 5 Tachwedd], bydd ap COVID-19 y GIG ar gyfer olrhain cysylltiadau yn cydweddu ag apiau tebyg yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Jersey a Gibraltar.

Bydd yr holl apiau’n gallu rhyngweithredu ’i gilydd, sy’n golygu y bydd person sy’n defnyddio unrhyw un o’r apiau hyn yn cael gwybod ei fod wedi ‘dod i gysylltiad agos’  rhywun sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws ac sy’n defnyddio unrhyw un o’r apiau canlynol: Protect Scotland, StopCovid NI, Jersey COVID alert, Beat COVID Gibraltar neu ap COVID-19 y GIG yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y gallu newydd hwn i ryngweithredu yn amddiffyn pobl yn fwy wrth iddynt groesi ffiniau ac wrth i gyfyngiadau newid ac amrywio yng ngwahanol rannau o’r DU dros y misoedd nesaf.

Bydd cyfyngiadau’r cyfnod atal byr yng Nghymru yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd, pan fydd mesurau cenedlaethol newydd yn dod i rym i ddiogelu iechyd pobl a sicrhau bod y feirws yn achosi cyn lleied o niwed  phosibl.

Caniateir teithio y tu hwnt i Gymru am resymau hanfodol, megis ar gyfer gwaith, addysg ac ar sail dosturiol. Caiff pobl Cymru eu hannog i gydymffurfio  rheoliadau a chyfyngiadau’r wlad y maent yn ymweld  hi.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru:

“Wrth i ni addasu i fyw gyda’r coronafeirws, mae’n gynyddol bwysig bod yr holl apiau olrhain cysylltiadau a ddefnyddir ar draws y DU yn gallu cyfnewid a defnyddio data mewn modd diogel pan fydd pobl yn teithio i’r gwledydd gwahanol.

“Mae’r apiau hyn, a’u gallu i weithio gyda’i gilydd, yn allweddol i gefnogi ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, a rhaglenni cyfatebol mewn gwledydd eraill, gan helpu i reoli lledaeniad y feirws, ac yn y pen draw, helpu i achub bywydau.”

Dywedodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU:

“Mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y DU, ac yn defnyddio pob arf sydd gennym i atal y feirws rhag lledaenu, diogelu ein holl ddinasyddion ac achub bywydau.

“Mae heddiw yn dynodi cam pwysig ymlaen yn ein hymateb i’r pandemig ar lefel y DU gyfan, gan sicrhau, waeth pa ap olrhain cysylltiadau rydych yn ei ddefnyddio ar draws y DU, Jersey neu Gibraltar, y byddwch yn cael gwybod os oes risg eich bod wedi dal y feirws.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i atal y coronafeirws rhag lledaenu, gan gynnwys ynysu pan cawn wybod y dylwn wneud hynny.”

Dywedodd Jeane Freeman, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban:

“Mae’r ap Protect Scotland yn arf hollbwysig i helpu i leihau lefelau COVID-19, ac rwy’n croesawu’r ffaith ei fod bellach yn rhyngweithredu ag ap COVID-19 y GIG.

“Datblygodd yr Alban ei ‘gweinydd wedi’i ffedereiddio’ ei hun sy’n galluogi’r holl apiau agosrwydd o fewn y DU, Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Gibraltar i weithio gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Fel rhan o hyn, mae’r ap Protect Scotland, yn yr un modd ag ap COVID-19 y GIG, bellach hefyd yn gallu rhyngweithredu ’r apiau yng Ngogledd Iwerddon, Jersey a Gibraltar.

“Er mai’r cyngor yw na ddylai pobl deithio ond am resymau hanfodol ar hyn o bryd, mae’r ffaith bod yr apiau hyn bellach yn cydweddu yn golygu y bydd y rheini sy’n gorfod teithio yn parhau i gael eu hysbysu drwy’r ap Protect Scotland os ydynt wedi dod i gysylltiad agos ag achos positif o COVID-19.”

Ar l nodi canlyniad positif i brawf, gofynnir i bobl sy’n defnyddio ap COVID-19 y GIG a ydynt yn dymuno rhannu eu ID unigryw. Os bydd defnyddiwr yn cydsynio i hynny, caiff yr wybodaeth ei rhannu ag apiau olrhain cysylltiadau eraill, yn ogystal  defnyddwyr ap COVID-19 y GIG.

Nid yw’r diweddariad hwn yn effeithio ar y lefelau uchel o breifatrwydd y mae ap COVID-19 y GIG yn ei sicrhau, a bydd yr holl ddata personol yn parhau i gael ei gadw ar ddyfais yr unigolyn yn unig.

Nid oes angen i ddefnyddwyr wneud unrhyw beth er mwyn gwneud y newid hwn, gan y bydd pob ap yn parhau i ddefnyddio data Bluetooth defnyddiwr y ffn er mwyn darparu data ar leoliad ac agosrwydd.

Nid yw’r ap yn dal gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad na’ch dyddiad geni, a dim ond rhan gyntaf eich cod post sydd ei angen er mwyn sicrhau bod modd rheoli achosion lleol. Ni chaiff unrhyw ddata personol eu rhannu  llywodraethau, yr heddlu na’r GIG.

Mae’r ap ar gyfer Cymru a Lloegr wedi cael ei lawrlwytho dros 19 miliwn o weithiau, ac mae’n rhan allweddol o raglen olrhain cysylltiadau pob gwlad, gan helpu i leihau’r cyfraddau trosglwyddo ar draws y DU.