English icon English
Health Minister, Eluned Morgan

Ni fydd model y GIG heddiw yn gynaliadwy gyda'r cynnydd a ragwelir yn y galw arno, a mae dewisiadau anodd o'n blaenau." – y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan

“Today’s NHS model will not be sustainable with the projected increases in demand and tough choices lie ahead "- Health Minister Eluned Morgan

Wrth i'r GIG gyrraedd 75 oed, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi nodi sut y bydd angen diwygio'r GIG a sut y bydd angen i'r cyhoedd helpu i lunio'r diwygiadau hynny os yw'r GIG am ddathlu canmlwyddiant

Wrth siarad yng Nghynhadledd GIG 75 Comisiwn Bevan, pwysleisiodd Ms Morgan fod angen newid i sicrhau bod GIG Cymru yn gallu parhau i ddarparu gofal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r GIG wedi parhau i ddatblygu, gan fabwysiadu triniaethau a thechnolegau newydd wrth i ofal iechyd newid, a helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach.

Mae’r galw am ofal GIG wedi cynyddu’n gyson wrth i bobl fyw’n hirach, yn aml gyda phroblemau iechyd mwy cymhleth.

Yn ôl amcangyfrifon presennol, mae’n bosibl y bydd nifer y bobl sy’n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn cynyddu o bron i 20,000 y flwyddyn rhwng 2017 a 2019 i bron i 25,000 erbyn 2040. Mae disgwyl hefyd y bydd canran y boblogaeth sydd â diabetes math 2 yn cynyddu i 17% erbyn 2035.

Yn ei haraith heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd yn sôn am sut mae’r GIG wedi newid ers iddo gael ei greu yn 1948 a sut mae angen iddo ddatblygu ymhellach i ateb y galw yn y dyfodol.

Mae’r ffordd y mae gwasanaethau’r GIG yn cael eu darparu yn newid yn barod. Er enghraifft, cyflwyno gwasanaeth GIG 111; datblygu canolfannau gofal sylfaenol brys; gwasanaethau rhagnodi gan fferyllwyr cymunedol a newid y gyfraith fel y gall optegwyr roi triniaeth ar gyfer ystod ehangach o broblemau llygaid. Mae adnoddau hefyd yn cael eu symud i ofal sylfaenol a’r gymuned i ddarparu mwy o ofal cofleidiol er mwyn osgoi’r angen i bobl gael eu derbyn i’r ysbyty.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd i gadw’n iach. Mae’r Strategaeth Iechyd drawsffurfiol, Cymru Iachach, yn canolbwyntio’n benodol ar unioni anghydraddoldebau. Yn ogystal, Cymru fydd un o’r gwledydd cyntaf i ymgynghori ar gynlluniau i bob corff cyhoeddus asesu’r effaith ar iechyd cyn cyflwyno mesurau newydd.

Yn ystod ei haraith, bydd y Gweinidog Iechyd yn gofyn i bobl helpu’r GIG i ddelio â heriau’r dyfodol drwy edrych ar ôl eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Mae ffordd o weithio’r Gwasanaeth Iechyd wedi newid dros y 75 mlynedd diwethaf, a bydd rhaid iddo ddal i newid os ydyn ni am ei ddiogelu i’r genhedlaeth nesaf.

“Mae’r straen sydd ar y system a’r galw am wasanaethau yn fwy nag erioed. Fe fydd rhaid inni ofyn cwestiynau anodd am sut rydyn ni’n gwneud y newid yma ac yn addasu i’r pwysau.

“Mae anghenion gofal iechyd Cymru wedi newid. Rydyn ni am i’r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd weithio gyda’i gilydd i greu system lle mae pawb yn deall ei gyfrifoldebau.

“Rhan ganolog o hyn yw delio â materion yn ymwneud â’r gweithlu. Mae angen inni ganolbwyntio ar symud gofal allan o ysbytai ac i mewn i’r gymuned, ac ar yr hyn sydd orau er lles y claf.

“Ond fe fydd rhaid inni hefyd roi mwy o bwys ar ein cyfrifoldeb ni i geisio cadw’n heini ac yn iach a rheoli ein hiechyd a’n lles ein hunain, pan fo hynny’n bosib’. Mae angen i bobl, y Gwasanaeth Iechyd a chymdeithas yn ehangach weithio gyda’i gilydd i’w gwneud yn haws i bawb fyw bywydau iachach. Os na wnawn ni hynny, rydyn ni’n gwybod y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd iawn o ran pa wasanaethau fydd ar gael yn y dyfodol.”

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd ei bod yn sefydlu grŵp annibynnol i adolygu a yw mecanweithiau llywodraethu ac atebolrwydd y GIG yn addas ar gyfer y dyfodol.

DIWEDD