Nod yr ymgyrch 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi' yw lleihau'r pwysau ar y GIG dros gyfnod y gaeaf
'Help Us Help You' campaign aims to ease winter pressure on NHS
Bydd pobl yn cael eu cyfeirio at eu fferyllfa leol i gael cymorth a chyngor am ddim os ydyn nhw'n dioddef o salwch cyffredin y gaeaf hwn.
Mae'r ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi, sy'n cael ei lansio heddiw (dydd Sadwrn 1 Tachwedd), yn darparu gwybodaeth i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion iechyd, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae'r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar y teledu a'r radio, ac yn y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n hyrwyddo fferyllfeydd cymunedol sy'n gallu darparu cyngor a thriniaeth arbenigol pan fo angen, ar gyfer 28 o anhwylderau cyffredin, heb fod angen cael apwyntiad gyda meddyg teulu.
Mae fferyllfeydd yn cynnig dewis arall mwy cyfleus ar gyfer trin popeth o beswch ac annwyd i fân anhwylderau a chael cyngor iechyd cyffredinol, yn lle defnyddio meddygfeydd ac adrannau argyfwng yn ystod misoedd prysur y gaeaf. Gall fferyllwyr hefyd roi gwrthfiotigau ar gyfer dolur gwddf a heintiau wrinol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Y gaeaf hwn, gallai un newid bach syml wneud gwahaniaeth enfawr i'n GIG.
"Os ydych chi'n dioddef o salwch cyffredin fel peswch, annwyd, dolur gwddf, neu fân boenau, gall eich fferyllydd lleol eich helpu.
"Mae fferyllwyr yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â chymwysterau i lefel uchel iawn, ac maen nhw'n gallu rhoi cyngor a thriniaeth gyfrinachol am amrywiaeth eang o gyflyrau cyffredin. Mae'n ffordd syml a chyfleus o gael help pan fo angen - ac ar yr un pryd mae hyn yn helpu meddygon teulu ac adrannau argyfwng i ganolbwyntio ar y bobl sydd wir angen gofal brys."
Gall fferyllfeydd cymunedol helpu gydag amryw o gyflyrau gan gynnwys brech ar y croen, mân boenau, a pheswch ac annwyd. Gallan nhw hefyd roi cyngor ar reoli cyflyrau iechyd hirdymor, a chynnig gwasanaethau ychwanegol fel brechiadau ffliw.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi ar gael yn: llyw.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi