Nodyn i atgoffa pawb o’r rheolau ar deithio ar draws y ffin wrth i’r cyfnod atal ddod i ben
Reminder on cross-border travel as Wales’ firebreak ends
Bydd y cyfyngiadau ar deithio rhwng Cymru a Lloegr yn parhau wrth i gyfnod atal byr Cymru ddod i ben a chyfnod clo mis o hyd Lloegr ddechrau, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.
Bydd pobl Cymru’n rhydd i deithio fel a fynnant yng Nghymru ei hun ar ôl 9 Tachwedd ond bydd y mesurau cenedlaethol newydd a ddaw i rym yn golygu bydd yn rhaid cael esgus rhesymol i deithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae esgus rhesymol yn ôl rheoliadau Cymru yn cynnwys teithio ar gyfer gwaith, addysg, apwyntiad meddygol, mater cyfreithiol neu ar sail dosturiol.
Mae’r cyfnod clo yn Lloegr yn golygu hefyd na fydd pobl yn cael teithio ar draws y ffin oni bai bod un o’r eithriadau yn rheoliadau Lloegr yn caniatáu hynny.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Wrth i’r cyfnod atal yng Nghymru ddod i ben ar 9 Tachwedd, newydd ddechrau mae’r cyfnod clo o bedair wythnos yng nghymunedau Lloegr.
“Mae hynny’n golygu na fydd unrhyw un yn cael teithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr heb esgus rhesymol. Mae’n bwysig iawn, wrth inni agor, nad yw Cymru’n dod yn ddihangfa i’r bobl sydd am osgoi’r cyfyngiadau tynnach newydd yn Lloegr.”
Mae diwedd y cyfnod atal yn golygu bod busnesau’n cael ailagor yng Nghymru. Bydd mesurau newydd i atal covid yn eu lle yn y sector lletygarwch, a bydd rhaid archebu ymlaen llaw, cynnal slotiau penodol a phrofi pwy ydych chi.
Ychwanegodd Ken Skates: “Fydd dod i Gymru ar gyfer rhywbeth dianghenraid fel mynd i dafarn neu fwyty ddim yn esgus rhesymol.
“Rydyn ni’n dod allan o’r cyfnod atal yn ofalus, gan bwyll bach, gyda mesurau i sicrhau nad ydyn ni’n colli’r hyn enillon ni yn y bythefnos ddiwethaf.
“Rydyn ni’n sylweddoli bod peidio â chael teithio ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn anodd i rai, ond rydyn ni’n ceisio delio ag argyfwng iechyd cyhoeddus a rhaid i ni i gyd wneud yr hyn sy’n iawn i ddiogelu’n teuluoedd a’n cymunedau pa le bynnag rydyn ni’n byw.
“Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru ac at weld ein cymunedau ar y ffin yn cael byw eu bywyd pob dydd unwaith eto, ond am y tro, mae angen i ni gadw Cymru’n ddiogel a chadw’r Deyrnas Unedig yn ddiogel.”