English icon English
IMG 9870 (002)

Nodyn i'r dyddiadur Llywodraeth CymruSafleoedd hanesyddol Cymru yn dweud ' Diolch'

Diary Marker - Wales’ Historic Sites say ‘diolch’

8pm dydd Iau 23 Ebrill

Bydd mwy o safleoedd hanesyddol o dan ofal Cadw yn cael eu goleuo i gefnogi'r gwaith anhygoel a wneir gan y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yr wythnos hon.

O ddydd Iau 23 Ebrill, bydd y safleoedd canlynol yn cael eu goleuo'n las bob nos, Cas-Gwent; Tyndyrn Cydweli;  Harlech; Cricieth; Caernarfon; Biwmares a Rhuddlan.

Bydd y gair ' diolch' hefyd yn ymddangos ar gestyll Caerffili a Chonwy.

Atgoffir aelodau o'r cyhoedd i aros adref, fodd bynnag, gofynnir i unrhyw un sy'n gallu gweld y safleoedd o'u cartrefi dagio @cadwwales ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae pob safle Cadw, yn cynnwys rhai sydd  heb staff gan amlaf, yn parhau i fod ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd.