English icon English
CSSJ MHA Awst 2025

O fod yn betrusgar i fod yn hyderus: trigolion yn cymryd eu camau digidol cyntaf

From hesitant to confident: residents take their first digital steps

Mae trigolion cymdeithasau tai ledled Cymru yn ennill annibyniaeth ac yn magu hyder newydd, diolch i gefnogaeth gan gynllun peilot grant y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol Llywodraeth Cymru.

Mae'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn nodi'r 'isafswm' sydd ei angen ar bobl o ran mynediad digidol, offer a sgiliau digidol sylfaenol i gymryd rhan llawn mewn bywyd modern. Wedi'i ddatblygu gyda mewnbwn gan ddinasyddion a sefydliadau, mae'r safon wedi'i dreialu gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau peilot hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y grant i fwy o ddarparwyr tai ledled Cymru.

Yr wythnos hon, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol â Chymdeithas Tai Sir Fynwy i weld sut mae'r peilot wedi helpu trigolion i feithrin sgiliau digidol sylfaenol a hyder trwy gymorth un-i-un wedi'i deilwra. Mae'r grant wedi bod yn arbennig o werthfawr i denantiaid sy'n symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i Gredyd Cynhwysol, ac i breswylwyr mewn tai gwarchod y mae symud o wasanaethau ffôn analog i wasanaethau ffôn digidol wedi effeithio arnynt

Mae un preswylydd, nad oedd erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o'r blaen, bellach yn pori'r rhyngrwyd ac yn anfon negeseuon e-bost ar ôl derbyn gliniadur a hyfforddiant wedi'i bersonoli. Cafodd preswylydd arall, yn ei 70au, ei ffôn symudol cyntaf a hyfforddiant trwy'r rhaglen, ac mae bellach yn tynnu lluniau, yn anfon negeseuon testun ac yn cadw mewn cysylltiad â'r teulu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Tai Sir Fynwy, Michele Morgan: "Roedden ni’n falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a'r Comisiynydd Pobl Hŷn, Rhian Bowen-Davies, i'n cartrefi pobl hŷn yng Nghil-y-coed i glywed drostynt eu hunain yr effaith y mae'r peilot wedi ei gael ar ein preswylwyr a'n gwirfoddolwyr digidol.

"Wrth wraidd y peilot roedd ein nod o sicrhau nad oes unrhyw breswylydd yn cael ei adael ar ôl, ac rydyn ni eisoes yn gweld y gwahaniaeth sylweddol y mae'n ei wneud i'w bywydau bob dydd a'u lles. Mae trigolion a oedd yn arfer bod yn ansicr ynghylch technoleg wedi dod yn fwy hyderus yn ddigidol; gan gofrestru i'n ap tenantiaid i reoli eu cyfrifon ar-lein eu hunain ac wedi dod i deimlo eu bod yn gallu cysylltu’n well gyda ffrindiau a theulu.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer i'w wneud o hyd a byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i fynd i’r afael ag ynysu digidol yng Nghymru".

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Roedd ymweld â Sir Fynwy a chlywed y straeon hyn yn uniongyrchol yn ysbrydoledig.  Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran cynhwysiant digidol ers dros ddegawd. Mae'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn cydnabod ei fod yn ymwneud â mwy na mynediad i'r rhyngrwyd yn unig – mae angen yr offer, y gwasanaethau a'r sgiliau cywir ar bobl hefyd i gymryd rhan lawn mewn bywyd modern. Mae allgáu digidol yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn elwa o dechnoleg ddigidol os ydynt yn dewis gwneud hynny."

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Lerpwl, Cwmpas, Prifysgol Loughborough a'r Good Things Foundation i sicrhau bod y Safon yn darparu fframwaith cryf ar gyfer sicrhau cynhwysiant digidol i bawb.