O lwyfannau i ailgylchu: buddsoddiad mewn ynni glân ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr

From festivals to recycling: local projects powered up across Cardiff, the Vale and Bridgend

  • Mwy na £1.5 miliwn i bedwar sefydliad ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr drwy raglen Ynni Cymru Llywodraeth Cymru
  • Mae'r pedwar prosiect ymhlith 24 o sefydliadau ledled Cymru a fydd yn rhannu £8.27 miliwn yn nhrydedd rownd ariannu'r Rhaglen
  • Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau ym meysydd diwylliant, gwasanaethau cymunedol, busnes ac ailgylchu, gan helpu sefydliadau i leihau costau ynni a buddsoddi yn eu dyfodol

Mae pedwar sefydliad ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr ar fin elwa ar fwy na £1.5 miliwn o gyllid Ynni Cymru. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi prosiectau ym meysydd diwylliant, gwasanaethau cymunedol, busnes ac ailgylchu, gan helpu sefydliadau i leihau costau ynni a chryfhau eu gwaith ar gyfer y dyfodol.

Mae'r prosiectau ymhlith 24 ledled Cymru fydd yn derbyn cyfran o £8.27 miliwn drwy drydedd rownd ariannu'r rhaglen.

Yn y brifddinas, mae Afanti Media yn helpu i roi ynni glanach wrth galon gwyliau, digwyddiadau diwylliannol a darllediadau ledled Cymru. Mae'r cwmni wedi derbyn £668,558 drwy Ynni Cymru i ehangu'r defnydd o systemau sy'n cael eu pweru gan fatris a lleihau'r ddibyniaeth ar eneraduron traddodiadol.

Nod y prosiect yw lleihau'r ddibyniaeth ar eneraduron diesel traddodiadol, gan greu amgylcheddau tawelach mewn digwyddiadau, lleihau allyriadau a gwella profiad trefnwyr, perfformwyr ac ymwelwyr.

Mae'r cwmni o Gaerdydd eisoes wedi defnyddio ei system batri symudol, Nessa, mewn digwyddiadau gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, Penwythnos Gŵyl Rhiwbeina, Cân i Gymru a darllediadau Super Rygbi Cymru ar S4C.

Bydd y buddsoddiad yn creu canolfan weithredu fwy ynni-effeithlon yng Nghaerdydd ac yn helpu'r cwmni i ehangu'r defnydd o systemau batri mewn digwyddiadau ledled Cymru. Nod y prosiect yw lleihau'r defnydd o eneraduron sy'n rhedeg ar danwydd, creu amgylcheddau tawelach, lleihau allyriadau a gwella profiad trefnwyr, perfformwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Gobaith y cwmni yw y bydd y buddsoddiad yn gwneud ynni glân yn ddewis mwy ymarferol ar gyfer popeth o wyliau cymunedol a digwyddiadau diwylliannol i ddarllediadau byw mawr a digwyddiadau chwaraeon.

Y pedwar prosiect sy'n derbyn cyllid yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yw:

  • Afanti Media Limited, Caerdydd - sefydliad sy'n cefnogi gwyliau a digwyddiadau diwylliannol
  • g39, Caerdydd - elusen gelfyddydol sy'n cefnogi artistiaid a chymunedau lleol
  • Amelia Methodist Trust Company Limited, Bro Morgannwg - elusen sy'n cefnogi pobl ifanc a gwirfoddolwyr.
  • Nolan Recycling Limited, Pen-y-bont ar Ogwr - busnes ailgylchu sy'n gwasanaethu cymunedau ledled de Cymru.

Mae Ynni Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gynhyrchu a defnyddio eu hynni glân eu hunain. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn lleihau costau ynni ac yn dod â buddion i ardaloedd lleol.

Ers ei lansio yn 2023, mae'r rhaglen wedi cefnogi mwy nag 80 o brosiectau ledled Cymru. Bydd y drydedd rownd hon o gyllid yn darparu £8.27 miliwn i 24 o sefydliadau, gan gynnwys pedwar prosiect ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, gan olygu bod cyfanswm buddsoddiad Ynni Cymru bellach yn fwy na £31 miliwn.

Dywedodd Emyr Afan, Prif Weithredwr Afanti Media:

“Mae Ynni Cymru yn ein helpu i droi arloesedd yn fanteision ymarferol.

“Rydyn ni am i drefnwyr allu dewis technoleg batris yn hyderus, boed hynny ar gyfer gŵyl gymunedol, dathlu diwylliant neu ddarlledu digwyddiad chwaraeon byw.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i roi'r arloesedd hwnnw ar waith mewn digwyddiadau ledled Cymru.”

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Rwy'n falch iawn bod sefydliadau ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn elwa ar y rownd ddiweddaraf hon o gyllid Ynni Cymru.

“Mae'r prosiectau hyn yn dangos ystod eang y manteision y gall ynni glân eu cynnig. Boed hynny'n darparu pŵer glanach i wyliau, digwyddiadau diwylliannol a darllediadau, cefnogi elusennau yn eu gwaith cymunedol neu helpu busnesau i leihau costau a buddsoddi yn eu dyfodol.

“Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru.”

Nodiadau i olygyddion

Dyma restr o'r holl sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Ynni Cymru. Bydd y rhestr ar gyfer grantiau 2026-27 yn cael ei diweddaru ar 19/10/2026 am 11pm:

https://www.llyw.cymru/ynni-cymru-grantiau-cyfalaf-ddyfarnwyd