English icon English

Paid ag ofni bod yn anghywir – beth os wyt ti'n iawn?

Don’t think 'what if I’m wrong?' Think 'what if I’m right?'

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi annog pobl i godi llais os byddant yn poeni am gam-drin plant, wrth i ymgyrch genedlaethol newydd gael ei lansio ar ddechrau'r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol.

Mae'r ymgyrch yn annog unrhyw un sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc yn ei deulu neu ei gymuned, i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei ardal neu i ffonio 101. 

Mae'n defnyddio gwersi a ddysgir drwy ymarfer, o ran pryd a sut i roi gwybod am bryderon diogelu.

Mae'r ymgyrch, sy'n dwyn yr enw ‘Gwneud yr Alwad’, yn tynnu sylw at rai o'r arwyddion cyffredin sy'n dangos y gallai fod rhywbeth sy'n peri gofid yn digwydd ym mywyd plentyn.

Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau yn ymddygiad neu gymeriad plentyn heb reswm, gwybodaeth am faterion oedolion sy'n amhriodol ar gyfer ei oedran, a thuedd i redeg i ffwrdd neu fynd ar goll.

Nid yw'r arwyddion hyn yn golygu bod plentyn yn cael ei niweidio o reidrwydd, ond bydd unrhyw wybodaeth yn helpu gweithwyr proffesiynol i asesu'r sefyllfa.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr o ran cadw plant yn ddiogel drwy roi gwybod i'r bobl iawn os ydych chi'n meddwl bod angen help ar rywun.

“Rydyn ni'n gwybod y gall fod pethau sy'n rhwystro pobl rhag rhoi gwybod am eu pryderon. Mae'n bosibl y byddai pobl yn anfodlon rhoi gwybod am eu hamheuon bod plentyn yn cael ei gam-drin am eu bod yn ofni eu bod yn anghywir. Efallai bod pobl eraill yn poeni y gallai hynny wneud pethau'n waeth i'r plentyn.

“Ond rwy'n annog pobl i wneud yr alwad os ydyn nhw'n poeni. Paid ag ofni bod yn anghywir, beth os wyt ti'n iawn? Mae modd rhoi gwybod am bryderon yn ddienw.”

Bydd y Dirprwy Weinidog yn siarad yn Seminar y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Chynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn nes ymlaen yr wythnos hon.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, Lance Carver, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i Fro Morgannwg:

“Rydyn ni wir yn croesawu'r fenter hon i geisio gwella hyder pobl i godi llais a rhannu unrhyw wybodaeth y gallai fod ganddynt am gam-drin plant yng Nghymru.”