English icon English

Panel arbenigol yn cyfarfod i lunio ffordd i fabwysiadu Dealltwriaeth Artiffisial yn foesegol ac yn effeithiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Expert panel meets to shape the ethical and effective adoption of AI in Welsh public sector delivery

Bydd grŵp arbenigol yn cyfarfod am y tro cyntaf i edrych ar sut y gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wella gwasanaethau cyhoeddus i bawb sy'n byw yng Nghymru.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans yn cynnal cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori Strategol ar AI. Mae'r aelodau'n dod o feysydd busnes ac arloesi, y byd academaidd a chefndiroedd partneriaeth gymdeithasol. 

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae AI yn dod â newidiadau i'n bywydau i gyd.  Mae ganddo'r potensial i wella ein gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol, ond wrth wneud hynny mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn foesegol.

"Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Prif Weinidog £2.5m ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o AI; yn ogystal â chreu Swyddfa bwrpasol ar gyfer AI o fewn Llywodraeth Cymru.

"Rydym eisoes yn lywodraeth sydd wedi ymrwymo i waith teg, ac mae Cymru yn genedl o ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg. Rwyf am ddod â'r elfennau hyn at ei gilydd i ddatblygu safonau uchel ar gyfer AI ym mywyd cyhoeddus Cymru."

Ymhlith aelodau'r grŵp mae:

  • Yr Athro Diane Gutiw, Arweinydd y Ganolfan Ymchwil AI yn CGI
  • Jeegar Kakkad, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-eang
  • Ruth McGuinness, Pennaeth Data ac AI yn Kainos
  • Gina Neff, Athro Deallusrwydd Al Cyfrifol, Prifysgol Queen Mary Llundain
  • Walter Pasquarelli, Siaradwr, Awdur a Chynghorydd ar AI a Realiti Synthetig
  • Marloes Pomp, Is-lywydd, Fforwm AI Ewrop
  • Rachel Purchase, y Cyfarwyddwr Data a Dadansoddeg yn Admiral
  • Shavannah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
  • Santosh Takoor, Pennaeth Llwyfan Cwmwl ac AI ar gyfer y Sector Cyhoeddus, Microsoft UK

Aelodau o fewn sector cyhoeddus Cymru:

  • Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
  • Helen Arthur, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
  • Jas Pal Baydal, Prif Gynghorydd Gwyddonol, Llywodraeth Cymru
  • Pennaeth y Swyddfa AI, Llywodraeth Cymru, i'w gadarnhau
  • Harriet Green a Myra Hunt, Cyd-brif Swyddogion Gweithredol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru
  • Matt Lewis, Cadeirydd Grŵp Arweinyddiaeth AI Ar Draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
  • Lindsey Phillips, Prif Swyddog Digidol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.